Dinas y Gromlech
Clogwyn sylweddol yn Nant Peris, Eryri yw Dinas y Gromlech (hefyd Dinas Cromlech) sydd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad dringo yng Nghymru a Phrydain. Cyfeirnod OS: SH629569. Lleolir y graig ar lethrau gogleddol cwm Nant Peris tua hanner ffordd i fyny rhwng pentref Nant Peris a Phen-y-Pass ar ben Bwlch Llanberis. Tu ôl i'r graig ceir Esgair Felen, braich dde-orllewinol mynydd Glyder Fawr. Enwir y graig ar ôl Y Gromlech, carreg naturiol wrth ei throed. Cysylltir y Gromlech â chwedl werin am Ganthrig Bwt, gwrach neu gawres ofnadwy oedd yn byw dan y gromlech ac yn bwyta plant. Mae'r gair 'dinas' yn golygu "caer" yma. Mae'r graig yn wynebu'r de ac felly'n denu'r haul. Mae'n tua 1,400 troedfedd uwch lefel y môr ac mae ei uchder yn amrywio o tua 150 hyd at 350 troedfedd. Mae'r dringo yn syrth ond mae'r garreg yn dda a diogel. Ceir sawl llwybr dringo adnabyddus arno, yn cynnwys:
Mae Dinas y Gromlech yn gorwedd tua 200 metr o'r ffordd sy'n dringo'r cwm a gellir ei gyrraedd o fan parcio sydd yno, ger Pont y Gromlech. Ffynhonnell
|
Portal di Ensiklopedia Dunia