Canthrig Bwt
Gwrach neu gawres ddychmygol oedd Canthrig Bwt. Dywedir ei bod yn byw yn Nantperis, Eryri, a'i bod yn bwyta plant. Roedd Canthrig yn byw dan garreg anferth a elwir y Gromlech, sydd dal i'w gweld heddiw ar bwys y lôn ym mhen uchaf Nant Peris ar y ffordd i fyny o dref Llanberis i Ben-y-pass; enwir Dinas y Gromlech ar ei hôl. Yn ôl y chwedl werin leol, roedd hi'n adnabyddus i'r trigolion fel hen wraig unig, sarrug, yr oedd ar y plant ei hofn hi. Un diwrnod aeth rhai o blant y gymdogaeth ar goll. Chwiliwyd amdanyn nhw ond roedden nhw wedi diflannu. Yn nes ymlaen aeth dyn lleol yn mynd i hela â'i gi. Cafodd y ci hyd i esgyrn plentyn a dechrau eu cnoi. Gwelwyd y wrach yn cilio i'w chartref dan y Gromlech. Aeth y dyn ar ei hôl hi yn llechwraidd ac ar ôl cyrraedd y garreg gwaeddodd fod ganddo blant i Ganthrig. Pan ddaeth hi allan, torrodd ei phen â'i fwyall a dyna ddiwedd Canthrig Bwt.[1] Ceir chwedlau cyffelyb am wrachod yn bwyta plant yn llên gwerin sawl gwlad, e.e. y wrach yn y chwedl adnabyddus am Hansel a Gretel gan y Brodyr Grimm a'r chwedlau am y trols yn Llychlyn. Cyfeiriadau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia