Derec Williams
Athro ac un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn oedd Derec Williams (3 Tachwedd 1949 – 27 Mai 2014). Fe'i ganwyd yn Amlwch, Ynys Môn a bu'n byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala ers blynyddoedd. Bu Derec yn athro mathemateg yn Llanidloes ac yn Ysgol y Berwyn, Y Bala. Sefydlodd Theatr Maldwyn gyda ei ffrind, y prifardd Penri Roberts a Linda Gittins, yn 1981. Bu farw yn sydyn yn 2014 gan adael ei wraig Ann a thri o blant - Branwen, Meilir ac Osian.[1] Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Eleth, Amlwch Dydd Iau, 5 Mehefin 2014 am 12.30 o’r gloch cyn symud i Amlosgfa Bangor am 2.15yp.[2] Mae ei blant wedi dilyn trywydd cerddorol hefyd. Bu'r tri yn cydweithio i ysgrifennu, cyfansoddi a chyfarwyddo sioe ieuenctid Dyma Fi i'w berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd 2014 ond gohiriwyd y perfformiad oherwydd marwolaeth eu tad. Mae Branwen ac Osian yn aelodau o Siddi, Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog, a Meilir yn actor a chanwr.[3] Theatr Derek WilliamsEnwyd canolfan adloniant ar safle Ysgol Godrau'r Berwyn yn Theatr Derek Williams ar ei ôl. Mae'r lleoliad yn dangos dramâu a cherddoriaeth Cymraeg a Saesneg a hefyd ffilmiau a digwyddiadau cymdeithasol a chymunedol. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia