David Evans (Dewi Dawel)
Roedd David Evans (Dewi Dawel) (16 Medi, 1814 -27 Awst, 1871) yn deiliwr, tafarnwr, bardd a chasglwr trethi Cymreig.[1] CefndirGanwyd Dewi Dawel yn y Gefnffordd, Penygarn, plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i Thomas Evans, oedd yn deiliwr wrth ei alwedigaeth. Bu farw ei dad trwy foddi yn Afon Cothi. GyrfaDilynodd yn ôl traed ei dad, gan ddechrau gweithio fel teiliwr yn gweithio o ddrws i ddrws. Wedi cael llwyddiant yn y fenter, agorodd weithdy teilwra, siop a thŷ tafarn, y Cwm Du Inn. Yn ogystal â'i fusnesau bu hefyd yn gweithio fel casglwr trethi ac fel clerc i bwyllgor yr ysgolion lleol. Gyrfa lenyddolMeistrolodd reolau cerdd dafod gan fabwysiadu'r enw barddol "Dewi Dawel" a bu'n cystadlu ac yn beirniadu mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol yn yr ardal. Bu hefyd yn cystadlu ar ysgrifennu traethodau. Enillodd yn eisteddfod Llandeilo gyda thraethawd "Dyletswyddau rhieni i roi addysg dda i'w merched", syniad oedd braidd yn ddieithr yn y cyfnod hwnnw. Argraffwyd y traethawd yn ddiweddarach. Roedd Dewi Dawel yn aelod o enwad yr Undodiaid, a byddai'n cerdded y 9 milltir o'i dŷ i'r capel undodaidd agosaf ger Llandeilo. Byddai'n cyfrannu'n aml i golofn farddonol cylchgrawn ei enwad Yr Ymofynydd. Un o'i gerddi mwyaf nodedig i'w chyhoeddi yn y cylchgrawn oedd Addysgiaeth yng Nghymru, sef ei ymateb i Frad y Llyfrau Gleision. Roedd yr un mor siomedig ag eraill yng Nghymru am gynnwys yr adroddiad. Fe'i siomwyd hefyd gan ymateb y mwyafrif i'r adroddiad. Roedd yn ymwybodol bod diffygion yn narpariaeth addysg yng Nghymru ac yn credu bod y cyfle i gael trafodaeth am addysg wedi ei golli trwy droi'r ymateb yn un Capel yn erbyn Eglwys.[2] Dyma'r gerdd:[3] Yn ogystal â bod yn fardd roedd Dewi Dawel yn gerddor hefyd. Canai nifer o offerynnau a fu'n sarsiant bandfeistr ar seindorf bres fach oedd yn gysylltiedig â chatrawd wirfoddolwyr y cylch. Dewi a'i feibion oedd bron y cyfan o aelodau'r band.[2] Mae llawer o'i waith wedi ei gadw gan y Llyfrgell Genedlaethol.[4] TeuluPriododd Mary Davies, Maes yr Haidd, Llanfynydd ym 1837 a bu iddynt ddeg o blant. Bu dau o'i feibion yn ysgolfeistri Thomas Morgan Evans (1838-92) yng Nghwmdu a Dafydd Evans (1842-93) yn Nhalyllychau. Mab arall iddo oedd y bardd Gwilym Caradog, William Caradog Evans (1848-78).[5] MarwolaethBu farw yn ei gartref, Tafarn Cwm-du yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Plwyf, Llanfynydd.[6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia