Danny Gabbidon
Pêl-droediwr Cymreig ydy Danny Gabbidon (ganwyd Daniel Leon Gabbidon 8 Awst 1979) sy'n chwarae i Gaerdydd yn Adran y Bencampwriaeth o Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru. Gyrfa clwbWest Bromwich AlbionDechreuodd ei yrfa fel prentis gyda chlwb West Bromwich Albion ym mis Tachwedd 1996 cyn arwyddo'n broffesiynol ym mis Gorffennaf 1998. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i West Brom yn erbyn Ipswich Town ar 20 Mawrth 1999[2]. Dinas CaerdyddWedi cyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd ar ddechrau tymor 2000-01, ymunodd yn barhaol â'r Adar Gleision ym mis Medi 2000 am £500,000[3].Yn ystod ei bum mlynedd ar Barc Ninian, cyrhaeddodd Caerdydd Gemau Ail Gyfle'r Ail Adran yn 2002 cyn sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf yn 2003 a chafodd ei enwebu'n aelod o dîm y flwyddyn y PFA yn 2004[4]. West Ham UnitedSymudodd i West Ham yn 2005 ynghŷd â'i gyd-Gymro, James Collins[5] er mwyn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr ac yn 2006 chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Lerpwl[6] cyn cael ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn West Ham United. Queen's Park RangersYmunodd â Queen's Park Rangers ym mis Gorffennaf 2011[7] ond wedi i Mark Hughes gymryd yr awenau fel rheolwr y clwb, yn dilyn diswyddiad Neil Warnock, ni chafodd Gabbidon llawer o gyfleon a chafodd ei ryddhau ar ddiwedd tymor 2011-12[8]. Crystal PalaceAr 18 Medi 2012 ymunodd â Crystal Palace[9] ond ar ôl dau dymor a 38 gêm cafodd ei ryddhau gan y clwb. Dinas CaerdyddAil ymunodd â Chaerdydd fel chwaraewr-hyfforddwr ym mis Medi 2014[10]. Ar 18 Medi 2014 cafodd ei benodi'n rheolwr dros-dro ar Gaerdydd ynghŷd â Scott Young yn dilyn diswyddiad Ole Gunnar Solskjaer[11]. Gyrfa ryngwladolGwnaeth Gabbidon 17 ymddangosiad i dîm dan 21 Cymru Y tro9 cyntaf oedd pan gafodd ei alw i garfan llawn Cymru ar gyfer gêm rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws ym mis Hydref 2001 ond bu raid iddo ddisgwyl tan 27 Mawrth 2002 cyn ennill ei gap cyntaf yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec[12]. Cafodd Gabbidon y cyfle i fod yn gapten ar ei wlad pan gollwyd 1-0 yn erbyn Cyprus ym mis Tachwedd 2005[13] ac eto yn y fuddugoliaeth 1-0 dros Bwlgaria ym mis Awst 2007. Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd Gabbidon ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl ennill 49 cap dros ei wlad[14]. AnrhydeddauCafodd Gabbidon wobr Chwaraewr Clwb y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2002 am ei berfformiadau gyda Chaerdydd ac yn 2005 enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn[15]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia