Cwm Prysor
Cwm mynyddig ym Meirionnydd, Gwynedd, yw Cwm Prysor. Gorwedd i'r dwyrain o Drawsfynydd. Mae union ystyr y gair prysor yn ansicr, ond mae'n debygol ei fod yn gyfuniad o'r gair prysg, sef "llwyni" neu "mangoed", a'r terfyniad -or sy'n dynodi amledd. Gellid cynnig fod yr enw yn cyfeirio at y prysgwydd a dyfai yn y cwm.[1] Llifa Afon Prysor ar hyd y cwm, o'i tharddle yn Llyn Conglog Mawr ar ymyl y Migneint. Tua milltir ahanner o ben uchaf y cwm, ger Craig yr Aderyn, ceir adfeilion Castell Prysor, castell sy'n dyddio o gyfnod Owain Gwynedd. Arhosodd Brenin Lloegr Edward 1af yma yn 1284, a mae llythyr a ysgrifennodd wedi ei gyfeirio o'r castell, yn bodoli. Roedd y rheilffordd o Blaenau Ffestiniog i Bala yn rhedeg drwy'r cwm, ond fe'i caewyd pan foddwyd Cwm Tryweryn i greu cronfa ddŵr i Lerpwl yn 1965. Yng Nghwm Prysor mae Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu. Ar un adeg bu Cwm Prysor yn lle digon diarffordd ond heddiw mae'r ffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala yn rhedeg trwyddo. Brodor arall o Gwm Prysor yw'r awdur a'r cerddor Dewi Prysor. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia