Roedd Coleg Annibynwyr Aberhonddu yn athrofa i hyfforddi gweinidogion a chenhadon yr Annibynwyr[1] a agorodd ym 1838 a chaeodd ym 1959. Bellach defnyddir yr adeilad ar gyfer tai cysgodol.
Cefndir athrofeydd yr Annibynwyr
Sefydlwyd yr athrofa gyntaf ar gyfer darpar weinidogion yr Annibynwyr yng Nghymru ym Mrynllywarch, Sir Forgannwg ym 1662. Sefydlydd y coleg oedd Samuel Jones, A.M. (1628 -1697) cyn athro yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Roedd Jones yn un o'r 2,500 o offeiriaid Piwritanaidd yn Eglwys Loegr a drowyd allan o'r eglwys ym 1662 am wrthod cydymffurfio â Deddf Unffurfiaeth 1662. Symudwyd yr athrofa yma i Tewkesbury, Swydd Gaerloyw wedi marwolaeth Jones.[2]
Sefydlwyd Athrofa i baratoi dynion ar gyfer weinidogaeth yr Annibynwyr Cymreig yn y Fenni ym 1757. Apwyntiwyd David Jardine, gweinidog Annibynnol y dref, yn bennaeth. Ym 1781, symudodd yr Athrofa i Groesoswallt i fod dan ofal Dr Edward Williams.[3] Pan symudodd Dr Williams i fod yn weinidog ym Mirmingham symudodd yr Athrofa i Wrecsam, lle yr arhosodd am 24 mlynedd dan ofal Jenkin Lewis, gweinidog y dref. Olynwyd Lewis fel gweinidog a phennaeth yr Athrofa gan Dr George Lewis,[4] ond ym 1816 derbyniodd ef alwad i fod yn weinidog Lanfyllin, a chymerodd yr Academi gydag ef. Derbyniodd Dr Lewis alwad i'r Drenewydd ym 1821 a symudodd yr Athrofa gydag ef eto. Bu farw George Lewis ym 1822. Olynydd Dr Lewis oedd Edward Davies, M.A. (mab yng nghyfraith Dr Lewis)[5] (ar y cyd â Samuel Bowen [6] hyd 1830).[1]
Coleg Aberhonddu
Ym 1836 penderfynodd y Bwrdd Cynulleidfaol i sefydlu athrofa fwy parhaol gyda'r eglwysi i ddwyn rhan o draul cynnal yr Athrofa. Byddai hyn yn fodd cynnal athrawon llawn amser, heb ofalaeth eglwysig, fel nad oedd yr athrofa yn mynd ar daith pob tro byddai ei bennaeth yn farw neu'n cael galwad newydd. Ym 1838 symudwyd yr athrofa i Aberhonddu gyda Charles Nice Davies [7] yn Brifathro, ac Edward Davies yn athro'r clasuron.[1] Roedd y coleg wedi ei leoli ar Stryd St. Mair mewn adeilad mawr o'r enw Neuadd yr Oddfellows.
Bu farw Nice Davies ym 1842. Penodwyd Henry Griffiths, yn olynydd iddo [8]. Yn ystod cyfnod Griffiths fel prifathro bu dau ddatblygiad pwysig yn nhrefniadaeth y coleg. Y gyntaf oedd agor y coleg i nifer cyfyngedig o efrydwyr lleyg, nad oeddynt yn bwriadu dod yn weinidogion na chenhadon. Yr ail oedd y coleg yn cael ei gydnabod fel un cysylltiedig â Phrifysgol Llundain ym 1852, a thrwy hynny yn gallu cynnig cyrsiau gradd.[9]
Ym 1853 ymadawodd Griffiths â'r coleg, er mwyn gwasanaethu fel gweinidog yn Lerpwl a daeth y Parch. John Morris yn Brifathro [10].
Y Coleg Coffa
Yn ystod amser John Morris fel prifathro adeiladwyd cartref pwrpasol newydd ar gyfer y coleg ar Heol Camden. Enwyd yr adeilad newydd "Y Coleg Coffa", i goffau sefydlydd coleg cyntaf yr annibynwyr yng Nghymru a'i gyd weinidogion a chafodd eu troi allan ym 1662.
Gosodwyd carreg sylfaen yr adeilad newydd gan Samuel Morley AS ar 12 Mehefin1867. Paratowyd cynlluniau i'r coleg arfaethedig gan y Parch. Thomas Thomas, o Landŵr, ond ar ôl i dendrau gael eu hysbysebu a'u derbyn, gwelwyd y byddai'r gost ar gyfer cyflawni'r cynlluniau yn eu cyfanrwydd gryn dipyn yn fwy nag yr oedd y pwyllgor yn teimlo eu bod yn gyfiawn i'w hysgwyddo. Yna gostyngwyd y dyluniad, ac yn y diwedd penderfynwyd derbyn tendr y Meistri Watkins a Jenkins, o Abertawe, am £8,250. Tuag at y swm hwn roedd yna swm o tua £ 2,000 mewn llaw, canlyniad yr ymdrech a wnaed mewn cysylltiad â'r mudiad Daucanmlwyddiant y troi allan, ar ôl gwariant ar gyfer gwrthrychau amrywiol. Cyfrannwyd swm bonheddig arall o £1,000 gan Samuel Morley, a rhoddwyd nifer o symiau llai gan eraill oedd â diddordeb yng nghynnydd addysg, ac yn enwedig mewn paratoi dynion ifanc yn iawn ar gyfer gwaith y weinidogaeth. Costiodd y coleg yn gyfan gwbl, gan gynnwys 4.5 erw (1.8 ha) o dir rhydd-ddaliadol, tua £11,000, a chodwyd y cyfan, ac eithrio £900, erbyn y diwrnod agoriadol, a dilëwyd y ddyled oedd yn weddill erbyn diwedd yr un flwyddyn. Cafwyd costau eraill wedi hynny mewn cysylltiad â'r tiroedd a'r preswylfeydd, a ddaeth â'r gost gyfan i gyfanswm o £12,000. [1]
Y Parch. William Roberts[11] a olynodd Edward Davies fel athro clasurol yn 1857. Bu farw Roberts trwy ddamwain yng ngorsaf Malvern ym 1872. Olynwyd ef gan un o gyn efrydwyr yr athrofa'r Parch. David Rowlands, (Dewi Môn), yr hwn a ddaeth yn Brifathro ar farwolaeth Dr Morris ym 1896. Penodwyd John Evans yn athro yn lle Dewi Môn.[12]. Rhwng 1899 a 1909, pan benodwyd ef yn brifathro Coleg Bala Bangor bu Thomas Rees yn athro diwinyddol Aberhonddu.[13]Ar farwolaeth Dewi Môn penodwyd y Parch Thomas Lewis, M.A., B.D. yn brifathro. Ym 1907 penodwyd Joseph Jones, cyn myfyriwr yn athro y Testament Newydd. Wedi ymddeoliad Lewis ym 1943 daeth ef yn brifathro.[14] Ym 1909 daeth David Miall Edwards yn athro Athroniaeth Crefydd ac Athrawiaeth Gristnogol yn y coleg.[15] Wedi ymddeoliad Miall Edwards ym 1935 penodwyd Y Parch John Daniel Vernon Lewis yn athro yn ei le, gwasanaethodd Lewis fel prifathro llanw rhwng 1950 a 1952 wedi marwolaeth sydyn Joseph Jones. Parhaodd Lewis yn athro hyd ei ymddeoliad ym 1957[16]
Prifathro olaf y coleg rhwng 1952 a 1959 oedd y Dr Pennar Davies. Penodwyd Pennar Davies yn brifathro Coleg Coffa Abertawe ym 1959 ac unwyd y ddau goleg a chaewyd safle Aberhonddu.
Pensaernïaeth
Mae'r adeilad o ddyluniad Gothig, a thair stori o uchder. Mae wedi'i adeiladu o gerrig brodorol, gyda gorchuddion carreg Caerfaddon. Y cyfanswm hyd y blaen yw 154 troedfedd (47 m), gyda dyfnder o'r blaen i'r cefn o tua 100 troedfedd (30 m). Mae yna adeilad canolog, gydag asgell ar y naill ochr a'r llall, ac ardal rhyngddynt. Ar y llawr isaf bu'r holl adrannau domestig. Ar y llawr cyntaf, roedd neuadd fwyta 85 wrth 20 troedfedd (25.9 m × 6.1 m), a 18.5 troedfedd (5.6 m), gyda ffenestr fae mawr; a llyfrgell olygus o'r un dimensiynau. Roedd y llawr nesaf yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth a dwy ystafell astudio. Roedd y trydydd llawr yn cynnwys yr ystafelloedd cysgu; gyda 24 stydi ac 20 ystafell gysgu (rhai ohonynt â dau wely) at ddefnydd y myfyrwyr. Roedd yna hefyd breswylfeydd cyfleus i'r tiwtoriaid. Mae'r twr, sy'n codi 7 troedfedd (2.1 m) o linell y prif adeilad, yn 16 troedfedd sgwâr (1.5 m2) a thua 100 troedfedd (30 m) o uchder. Roedd y brif fynedfa o dan y twr, a ffordd sy'n arwain at ei gefn. [17]