Coden fustl
![]()
Organ fechan sy’n rhan o’r system fustlog a sy’n cadw cronfa fechan o hylif y bustl yw coden y bustl. Mae’r bustl yn cael ei gynhyrchu gan yr iau cyn cael ei ryddhau i’r goden drwy’r drwythel afuol. Fel arfer mae rhwng 30 a 60 mililitr of fustl yn cael ei gadw oddi fewn i’r goden. Pan mae bwyd sy’n cynnwys braster yn mynd drwy’r system dreulio mae’n gwneud i goden y fustl ryddhau bustl drwy ddwythell y fustl i’r dwodenwm er mwyn emylseiddio’r braster er mwyn i’r corff allu ei dreulio’n haws. Cymysgedd o ddwr a sawl halen hepatig yw’r bustl yn bennaf sydd hefyd yn cynnwys bilirwbin a gynhyrchir fel sgil-wastraff prosesu haearn yn y gwaed er mwyn ei gludo o’r corff. Mae yna gerrig yn gallu ffurfio yn y goden weithiau sy’n gallu bod yn boenus tu hwnt a bydd angen triniaeth feddygol i gael gwared â nhw fel arfer.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia