Iau

Iau pren ar wedd o ych

Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr iau i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu'r baich ar draws ysgwyddau'r anifeiliaid.

Defnyddir ieuau ar geffylau weithiau ond ar ychain y'i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw'r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.

Llyfryddiaeth

  • F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1954)
Chwiliwch am Iau
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia