CirgisegIaith Dyrcaidd yw Cirgiseg a siaredir yn frodorol gan y Cirgisiaid, sydd yn byw yng Nghirgistan ac ym Mynyddoedd Pamir ar ffiniau Tajicistan, Affganistan, a gorllewin Tsieina. Perthyna Cirgiseg i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Gasacheg, Karakalpak, a Nogay. Mae'r enghreifftiau cynharaf o Girgiseg ysgrifenedig yn dyddio o'r 19g ac yn cynnwys nodweddion o iaith lafar y Cirgiseg wedi eu hychwanegu at yr iaith Tsagadai safonol, a hynny drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg. Yn 1923 diwygwyd a safonwyd yr wyddor Arabeg ar gyfer yr iaith, ac yn 1929 newidiwyd i'r wyddor Ladin. Yn 1940 mabwysiadwyd system o ysgrifennu Cirgiseg ar sail yr wyddor Gyrilig, a dyma'r drefn a barheir hyd heddiw yng Nghirgistan. Defnyddir yr wyddor Arabeg o hyd yn Tsieina. Dosbarthiad ieithyddolPerthyna Cirgiseg i grŵp y gogledd-orllewin, neu’r Kipchak, yn nheulu’r ieithoedd Tyrcaidd. Y Girgiseg ydy’r drydedd iaith Kipchak fwyaf yn nhermau nifer ei siaradwyr, ar ôl Casacheg a Thatareg. Mae Cirgiseg modern yn perthyn yn agos iawn i Gasacheg, ac yn hanesyddol cafodd y Cirgisiaid a’r Casachiaid eu cysylltu ac yn aml eu cymysgu am y rheswm honno. Mae Cirgiseg yn rhannu nodweddion â ieithoedd Tyrcig de Siberia, gan gynnwys Altaeg, ond nid yw ieithyddion yn sicr os ydy Cirgiseg yn tarddu yn uniongyrchol o’r Hen Dyrceg.[1] Dosraniad daearyddolTrwy gydol yr oes Sofietaidd, cedwid yr iaith Girgiseg yn gryf gan y Cirgisiaid ethnig a drigasant yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, er yr oeddynt yn cyfri am leiafrif o boblogaeth y weriniaeth honno. Yn ôl cyfrifiad 1979, roedd 97.9 y cant o Girgisiaid yn yr Undeb Sofietaidd yn hawlio’r Girgiseg yn famiaith.[2] Er i Rwsieiddio gael mwy o effaith yng Nghirgistan nac yng nghyn-wladwriaethau Sofietaidd eraill Canolbarth Asia, mae llai o bobl yn siarad Rwseg yr ardaloedd gwledig ac mae’r iaith Girgiseg wedi dal ei thir ar draws Cirgistan yn yr 21g.[3] Siaredir Cirgiseg gan ryw 5 miliwn o bobl yng Nghirgistan, a hefyd yn rhannau o Tsieina, Casachstan, Tajicistan, ac Wsbecistan. OrgraffCyn yr oes Sofietaidd, ysgrifennwyd Cirgiseg ac ieithoedd Tyrcaidd eraill Canolbarth Asia yn yr wyddor Arabeg. Defnyddiwyd ffurf ddiwygiedig ar yr wyddor Arabeg o 1923 i 1929, pryd mabwysiadwyd yr wyddor Ladin. Yn 1940, dechreuwyd defnyddio’r wyddor Gyrilig i ysgrifennu’r Girgiseg. Mae Cirgistan yn parhau i ddefnyddio llythrennau Cyrilig er bod gwledydd cyfagos yng Nghanolbarth Asia, megis Tyrcmenistan ac Wsbecistan, wedi dychwelyd at y gyfundrefn Ladin.[3] GramadegFfonolegMae gan yr iaith Girgiseg modern 14 o ffonemau llafariaid, wyth ohonynt yn fyr a chwech yn hir. Dengys y chwe ffonem llafariad hir gan ddeugraffau yn ôl yr orgraff Girgiseg. MorffolegGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. CystrawenGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. Ffurfiau a thafodieithoeddRhennir tafodieithoedd Cirgiseg yn ddau grŵp: y gogleddol a’r deheuol. Y tafodieithoedd gogleddol sydd yn sail i’r iaith lenyddol. Gweler hefydFfynonellauCyfeiriadau
Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia