Casacheg
Iaith Dyrcaidd yw Casacheg a siaredir yn frodorol gan y Casachiaid, sydd yn byw yng Nghasachstan a mewn lleiafrifoedd yn rhanbarth Xinjiang, Tsieina, ac yn Wsbecistan, Mongolia, ac Affganistan. Mae Casacheg yn perthyn i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Girgiseg, Karakalpak, a Nogay. Ysgrifennwyd yr iaith Gasacheg drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg hyd at yr 20g. Yn sgil sefydlu'r Undeb Sofietaidd, defnyddiwyd llythrennau Lladin yn y cyfnod 1929–40 cyn newid i'r wyddor Gyrilig. Yn 2017 datganodd llywodraeth Casachstan y byddai'r iaith yn dychwelyd at lythrennau Lladin a chyda diwygiadau sillafu.[3] Mae'r dafodiaith Kipchak-Wsbec yn debyg iawn i Gasacheg, a fe'i ystyrir yn aml yn dafodiaith Gasacheg er bod ei siaradwyr yn defnyddio'r iaith lenyddol Wsbeceg.[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia