Cilla Black
Roedd Cilla Black OBE (ganed Priscilla Maria Veronica White; 27 Mai 1943 – 1 Awst 2015) yn gantores, cyfansoddwraig a chyflwynwraig teledu o Loegr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel cantores, aeth Black ymlaen i fod y cyflwynwraig benywaidd i gael ei thalu fwyaf yn hanes teledu Prydeinig, yn ei chyfnod. Cychwynodd ei gyrfa fel cantores yn 1963 a chyrhaeddodd ei senglau "Anyone Who Had a Heart" (1964) a "You're My World" (1964) rif un. Cafodd lwyddiant gyda 11 o ganeuon a gyrhaeddodd y Top Ten rhwng 1964 a 1971. Ym Mai 2010, dangosodd ymchwil gan y BBC (BBC Radio 2) mai ei fersiwn hi o "Anyone Who Had a Heart" oedd y sengl gan ferch a werthodd fwyaf drwy'r 1960au.[1] Roedd yn 72 oed ac yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r cyfresi Blind Date a Surprise, Surprise. Bu farw'i phriod Bobby Willis, a oedd hefyd yn Rheolwr iddi, yn 1999; roedd ganddynt ddau fab. Bu farw yn ei chartref yn Marbella, Sbaen.[2] Albymau
Teledu
Hunangofiant
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia