Charles Perrault
Bardd, llenor a beirniad llenyddol o Ffrainc sy'n adnabyddus yn bennaf heddiw fel awdur Contes de ma mère l’Oye, cyfrol enwog o chwedlau gwerin Ffrangeg, oedd Charles Perrault (12 Ionawr 1628 – 16 Mai 1703). HanesGaned Perrault ym Mharis, yr olaf o saith blentyn Pierre Perrault, o ddinas Tours yn wreiddiol, a'i wraig Paquette Le Clerc. Daeth ei frawd hŷn Claude Perrault yn bensaer enwog. Astudiodd lenyddiaeth ac athroniaeth yng Ngholeg Beauvais ym Mharis ond roedd yn fyfyriwr disglair ac annibynnol a gadawodd gyda chyfaill ar ôl ffraeo ag un o'r athrawon, fel y mae ei Mémoires yn cofnodi. Ar ôl cyfnod o ddarllen ac astudio'r clasuron, hen a modern, y Beibl a hanes Ffrainc, daeth yn dwrnai yn 1651. Enillodd ffafr Jean-Baptiste Colbert a chafodd le yn llys y brenin Louis XIV. Erbyn 1671 roedd yn aelod o'r Académie française ac yn 1694 ysgrifennodd y rhagymadrodd i eiriadur enwog yr academi, y Dictionnaire de l'Académie française. Bu farw ym Mharis ym mis Mai 1703. Gwaith llenyddolFel cynifer o lenorion eraill ei oes roedd Perrault yn ŵr amryddawn. Roedd yn fardd medrus a gyfansoddodd sawl cerdd o safon uchel, yn feirniad llenyddol blaengar a ochrai gyda'r Moderniaid yn erbyn yr Hynafwyr gan bledio achos barddoniaeth Ffrangeg newydd glasurol a fyddai'n ddyfnach a mwy ddyrchafedig na barddoniaeth yr Henfyd (er bod ganddo barch at yr hen awduron hefyd), ac yn ysgrifwr ar sawl pwnc yn cynnwys hanes Ffrainc. ![]() Ond er ei fod yn llenor penigamp yn sawl maes, fe'i cofir heddiw fel awdur Contes de ma mère l’Oye, ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités (neu "Contes de Perrault"/"Chwedlau Perrault"), a gyhoeddwyd yn ei ffurf derfynol ym 1697. Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur. Mae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:
Copiwyd ac addaswyd y chwedlau hyn gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg moesoli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes Hugan Goch Fach (Little Red Riding Hood) diolch i fersiwn y Brodyr Grimm a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coedwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg. Llyfryddiaeth
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia