Catherine Glyn Davies
Hanesydd, ieithydd ac athronydd o Gymru oedd Catherine "Caryl" Glyn Davies (née Catherine Glyn Jones; 26 Medi 1926 – 22 Chwefror 2007); roedd hefyd yn gyfieithydd. Ganwyd Catherine Glyn Jones yn Nhrealaw, Morgannwg, ar 26 Medi 1926. Priododd ei rhieni yn 1925: gweinidog oedd ei thad, William Glyn Jones (1883-1958), a Catherine oedd y plentyn hynaf; roedd ganddi frawd a dwy chwaer. Mabel (née Williams Lloyd, g. 1897) oedd ei mam.[1] ColegWedi cyfnod yn ysgol sir y Porth derbyniodd Radd Dosbarth Cyntaf mewn Ffrangeg mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a gradd Meistr yn 1949 am waith ar A critical study of John Locke's examination of Père Malebranche's opinion of seeing all things in God. Treuliodd flwyddyn yn Sorbonne ym Mharis wedi iddi ennill ysgoloriaeth deithiol Kemsley gan Brifysgol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn astudiodd y berthynas rhwng Ffrainc a Lloegr yn niwedd y 1600au - yn Sorbonne - cyn ymuno â chwrs yng Ngholeg Somerville, Rhydychen lle ysgrifennodd draethawd o'r enw The influence of John Locke on literature and thought in eighteenth century France: a study of Locke's influence on the development of the theory of knowledge in France between 1734 and 1748 - a hynny yn 1954.[1] Roedd y gwaith hwn yn rhan o'i Doethuriaieth.[2] PriodiYn Sorbonne, cyfarfu â Gareth Alban Davies (1926-2009) a phriododd y ddau yn 1952 ac er mai yn Otley, Swydd Efrog, y magwyd eu pedwar plentyn, Eleri, Rhodri, Catrin a Gwen, Cymraeg oedd iaith y cartref. Gyda'i gŵr cyfieithodd nofel André Gide La Symphonie pastorale dan y teitl 'Y Deillion' (1965). Treuliodd y teulu dri-deg mlynedd yn Otley, Swydd Efrog.[1] Dychwelyd i GymruYn 1986 ymddeolodd ei gŵr o'r gadair Sbaeneg yn Leeds a symudodd y teulu i Flaenpant, hen ysgoldy ger Llangwyryfon, Ceredigion, lle y byddent yn arfer treulio gwyliau gan ei fod yn agos at Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyfarnwyd PhD i Catherine (neu 'Caryl') gan Brifysgol Leeds yn 1989 am draethawd a gyhoeddodd yn 1990. Yn Conscience as Consciousness: the idea of self-awareness in French philosophical writing from Descartes to Diderot ceir trafodaeth athronyddol, gynhwysfawr a chyfeirir at y gyfrol yn aml.[3] Ieithoedd eraillCyfieithodd o'r Rwsieg Y Cosaciaid gan Lev Tolstoy (1998) a thrafododd ‘Y Myfyriwr’ gan Anton Chekhov mewn dwy erthygl (1994-5). Yn 2000 cyhoeddodd gyfrol bwysig ar hanes ieithyddiaeth Geltaidd, Adfeilion Babel: agweddau ar syniadaeth ieithyddol y ddeunawfed ganrif, gwaith a oedd yn olrhain datblygiad syniadau gramadegwyr, geiriadurwyr ac ieithegwyr am ddechreuad a datblygiad iaith a chydberthynas ieithoedd. Ysgrifennodd am yr agweddau a oedd yn deillio o ffynonellau clasurol a Beiblaidd e.e. gwaith John Davies (Mallwyd) ac Edward Lhuyd, a dylanwad ysgolheigion o'r cyfandir e.e. Paul-Yves Pezron a Gottfried Wilhelm von Leibniz ar lenyddiaeth y cyfnod sy'n blaenori darganfyddiad Syr William Jones (1746-1794) o gydberthynas Lladin, Groeg a Sanskrit. Gosododd astudiaethau'r Cymry mewn cyd-destun Ewropeaidd.[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia