Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr
Castell Normanaidd yn ne Cymru yw'r Castell Newydd, a godwyd ar fryncyn uwchlaw tref Pen-y-bont ar Ogwr. I'r Gogledd-orllewin, roedd arglwyddiaeth Gymreig Afan ac un o'r rhesymau dros godi'r castell oedd gwarchod y ffin a cheisio rheoli arglwyddi Afan. Adeilion sydd yno, bellach. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Sarah Murphy (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[1][2] HanesCodwyd y castell yn 1106 gan y barwn Normanaidd Robert Fitzhamon ar ran William de Londres a'r castell hwn yw'r fan mwyaf gorllewinol yn ei ymgais i oresgyn De Cymru. Mae'n un o dri chastell yn yr ardal yr adeg hon ynghyd â Chastel Coety a Chastell Ogwr. Yn 1189 trosglwyddwyd perchnogaeth y castell i Morgan ap Caradog ac yna yn c1208, i'w fab Lleison.[3] Ar farwolaeth Lleision (tua 1214) trosglwyddwyd y castell i feddiant Isabel, gwraig cyntaf Brenin Ioan o Loegr.[4] Yn 1217 aeth i ddwylo Gilbert Fitz Richard ac yn yr un flwyddyn fe'i trosgwyddwyd i Gilbert de Turberville. Dros y canrifoedd, bu perchnogaeth y castell yn nwylo'r teuluoedd Berkerolle, Gamage ac yna fe'i prynnwyd gan Samuel Edwin o "Lanmihangel Place" ac yna'n rhan o Ystâd Dunraven. Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia