Castell Caereinion (castell)
Castell mwnt a beili ym meddiant tywysogion teyrnas Powys oedd Castell Caereinion. Enwir y pentref a chymuned o'r un enw, sef Castell Caereinion, Powys, ar ôl y castell. Codwyd Castell Caereinion fel canolfan filwrol i reoli cantref Caereinion gan Madog ap Maredudd, tywysog Powys, yn y flwyddyn 1156. Roedd y safle o fewn 4 milltir i dref Y Trallwng, yn nwylo arglwyddi Normanaidd Y Mers. Daeth y castell i ddwylo'r tywysog Owain Cyfeiliog, ond yn 1165 torrodd ei air ag Owain Gwynedd a thywysogion eraill Cymru, a oedd wedi ymuno mewn cynghrair i wrthsefyll ymosodiadau Harri II o Loegr ar Gymru. Am fod y castell a thiroedd eraill Owain Cyfeiliog mor agos i un o brif ganolfannau arglwyddi'r Mers, ymddengys ei fod yn ofni eu colli, ond enillodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol ar y Saeson ym Mrwydr Crogen yn yr un flwyddyn a rhoddwyd ei gastell i un o feibion eraill Madog ap Maredudd, sef Owain Fychan. Ffôdd Owain Cyfeiliog ond daeth yn ôl gyda mintai gryf o filwyr arglwyddi'r Mers a dinistriodd y castell a lladd ei amddiffynwyr i gyd. Ni lwyddodd Owain Fychan i ailgipio'r safle ac ni cheir cyfeiriad at y castell ar ôl hynny. Dim ond gweddillion mwnt y castell sydd i'w gweld heddiw, ger Eglwys Sant Garmon yn y pentref. Ffynonellau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia