Carlos Marighella
Gwleidydd o Frasil a chwyldroadwr Marcsaidd–Leninaidd oedd Carlos Marighella (5 Rhagfyr 1911 – 4 Tachwedd 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ddamcaniaeth rhyfela herwfilwrol. Ganed yn Salvador, Bahia, yng nghyfnod Gweriniaeth Gyntaf Brasil. Mewnfudwr o'r Eidal oedd ei dad, a disgynnodd ei fam o gaethweision Affricanaidd. Astudiodd beirianneg yng Ngholeg Polytechnig Salvador, ond ni chyflawnai ei gwrs. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Brasil ym 1927, a chafodd ei garcharu yn sgil methiant y gwrthryfel comiwnyddol yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Getúlio Vargas ym 1935. Wedi iddo gael ei ryddhau ym 1937, symudodd Marighella i São Paulo. Cafodd Marighella ei siomi gan agweddau ceidwadol y Blaid Gomiwnyddol yn y cyfnod hwn, a rhodd anogaeth i'w gyd-gomiwnyddion ysgogi'r chwyldro drwy frwydro yn erbyn y llywodraeth ar strydoedd y dinasoedd. Etholwyd i'r Gyngres Genedlaethol yn ddirprwy dros dalaith São Paulo ym 1946, ond bu'n rhaid iddo weithredu'n gudd yn sgil gwaharddiad y Blaid Gomiwnyddol ym 1947. Ym 1960 cafodd Marighella ac arweinwyr Plaid Gomiwnyddol Brasil eu gwahodd i La Habana, yn sgil buddugoliaeth Chwyldro Ciwba. Gwrthodwyd y gwahoddiad gan y rhai eraill, gan achosi rhwyg yn y blaid. Dadleuodd Marighella bod damcaniaeth chwyldroadol Che Guevara ar drengi gan ei fod yn rhy ddigymell, a datblygodd felly ddamcaniaeth ei hun. Sefydlodd yr Ação Libertadora Nacional (ALN) ym 1968 ac ysgrifennodd Minimanual do Guerrilheiro Urbano (1969) fel llawlyfr i chwyldroadwyr herwfilwrol. Bu farw Marighella mewn cudd-ymosodiad gan yr heddlu yn São Paulo yn 57 oed. Darllen pellach
|
Portal di Ensiklopedia Dunia