Capel Methodistaidd, Trefynwy
Cynlluniwyd Capel y Methodistiaid, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru, gan George Vaughan Maddox. Fe godwyd yr adeilad ychydig yn ôl o Sgwâr Sant Ioan a hynny yn 1837. Mae'r galeri gwreiddiol yn dal ynddo a llofft yr organ a'r pulpud cywrain yntau.[1] Mae wedi ei osod yn ôl o'r brif stryd yn unol â threfn yr oes - lle fod yr adeilad anghydffurfiol i'w weld yn ormod o fwgan i'r drefn arferol ac i'r sefydliad. Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* gan Cadw. Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).[2] HanesYn y 18g roedd y Methodistiaid newydd yn her i'r drefn a'r sefydliad yn Nhrefynwy, fel llawer i le arall. Ambell dro llabuddiwyd y gweinidogion gyda cherrig! A rhegwyd arnynt gan yr hogia lleol - yn aml iawn gydag aelodau'r eglwys yn procio drwg, ychydig y tu ôl iddynt.[3] Lladdwyd un gweinidog gan y dorf wrth iddo bregethu yn yr awyr agored yn Y Gelli Gandryll, ychydig i lawr y ffordd. Ond ni allodd dim eu hatal a chyn hir roedden nhw wedi sefdlu capel yn Inch Lane (Heol y Gloch erbyn heddiw) a chapel Wesla yn Heol Werhead. Bu John Wesley'n pregethu yma yn 1779 a phedair gwaith wedi hynny. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia