C.P.D. Gwalia Unedig

C.P.D. Gwalia Unedig
Enghraifft o:tîm pêl-droed merched Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1975 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cardiffcityladiesfc.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Clwb Pêl-droed Gwalia Unedig (Saesneg: Gwalia United Football Club) yn glwb pêl-droed i ferched yn ardal Caerdydd. Er symlrwydd, cyfeirir at y clwb yma (Cardiff City Ladies F.C.) wrth eu henw Saesneg yn unig rhag eu drysu â C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mae Gwalia Unedig n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Merched FA Lloegr ond maent hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Pêl-droed Merched Cymru a nhw yw'r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yn y twrnamaint.

Hanes

Sefydlwyd y clwb ym 1975 fel Llanedeyrn Ladies Football Club ar ôl gêm elusennol leol. Yn 1981 newidiwyd yr enw i Cardiff Ladies Football Club, ac ym 1993 cysylltodd y clwb ag C.P.D. Inter Caerdydd (clwb nad sy'n bodoli bellach ond a oedd yn un o brif glybiau Cynghrair Cymru (dynion) yn yr 1990au) a dechrau chwarae yn Stadiwm Athletau Caerdydd. Yn 1997, daeth y cysylltiad ag Inter Caerdydd i ben a newidiodd y clwb ei enw i Glwb Sir Caerdydd wrth gysylltu â Chyngor Sir Caerdydd. Yn 2001 dechreuodd y clwb bod yn gysylltiedig â C.P.D. Dinas Caerdydd, y clwb dynion proffesiynol o'r un ddinas.

Ar ddechrau tymor 2003, fodd bynnag, torrodd y clwb ei gysylltiad â endyd gwrywaidd pan bleidleisiodd ei aelodau yn erbyn cynigion y clwb dynion. Daeth y clwb, unwaith eto, yn glwb annibynnol. Er eu bod yn cael cadw defnyddio'r enw 'Cardiff City' a lliwiau cit, mae'r arfbais yn wahanol iawn, ac nid ydyn nhw bellach yn defnyddio'r llysenw enwog 'Bluebirds' (er bod cyfryngau fel BBC Sport yn cyfeirio atynt o hyd), gan ymgorffori'r ddraig goch Cymru yn lle.

Yn 2006 enillodd Cardiff City Ladies F.C. Adran Ddeheuol Uwch Gynghrair Merched Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA Women's Premier League Southern Division) a chawsant eu dyrchafu i'r "National Division" am y tro cyntaf. Wedi iddynt ddisgyn adran yn nhymor 2007–08, cafodd y clwb ei ddyrchafu nôl i'r National Division yn 2010–11.[1]

Cwpan Pêl-droed Merched Cymru

CCLFC (glas) sydd wedi dominyddu Cwpan Pêl-droed Merched Cymru

Oherwydd bod CCLCF wedi ennill Cwpan Pêl-droed Merched Cymru, mae'r clwb wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ac maent wedi cystadlu sawl gwaith yng Nghwpan Merched UEFA (Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA). Mae felly ganddynt hawl nad oes gan y tîm dynion sydd methu cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru bellach.

Cartref

Dydy'r clwb bellach ddim wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Maes cartef y clwb bellach yw, Canolfan Chwaraeon CCB yn Ystrad Mynach, Hengoed ger Caerffili sydd i'r gogledd o'r Brifddinas.[2]

Strwythur

Mae'r clwb yn cynnwys sawl haen ar gyfer chwaraewyr - tîm datblygu sy'n chwarae yn yr FA Midland's Development League; Dan-16 sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod a Merched De Cymru; Dan-14 a Dan-13 sydd ill dau hefyd yn chwarae yn y Gynghrair i Dde Cymru.[3]

Carfan Tîm Cyntaf

Diweddarwyd 15 July 2020.[4]

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Gwlad Chwaraewr

GG

Cymru Laura O'Sullivan

GG

Cymru Poppy Soper

A

Cymru Chelsea Jumratie

A

Cymru Amina Vine

A

Cymru Shannon Greenway

CC

Cymru Gwennan Davies

CC

Cymru Kelly Isaac

CC

Cymru Hannah Miles

CC

Cymru Cerys Jones
Rhif Safle Chwaraewr

CC

Cymru Josie Longhurst

Y

Cymru Nadia Lawrence

CC

Cymru Nia Rees

CC

Cymru Morgan Rogers (footballer)

Y

Cymru Cori Williams
(captain)

Y

Cymru Jasmine Simpson

Y

Cymru Grace Horrell

Y

Cymru Kylie Nolan

A

Cymru Loren Dykes

Anrhydeddau

Record yn Ewrop - cystadlaethau UEFA

Cyfeiriadau

  1. "Cardiff City Ladies win promotion". BBC. 8 May 2011. Cyrchwyd 18 May 2011.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-13. Cyrchwyd 2020-08-28.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 2020-08-28.
  4. "Women's First Team". Cardiff City Ladies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 12 July 2020.
  5. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-08. Cyrchwyd 2016-04-21.CS1 maint: archived copy as title (link)

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

[[Categori:Timau pêl-droed merched yng Nghymru]|Gwalia Unedig]

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia