Roedd Bwrdeistref Merthyr Tudful yn gyn etholaeth seneddol wedi ei selio ar dref Merthyr Tudful; cafodd yr etholaeth ei greu ym 1832. O 1832 i 1868 dychwelodd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig, ym 1868 cafodd nifer y cynrychiolwyr ei gynyddu i ddau aelod. Cafodd yr etholaeth ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 a'i olynu gan etholaethau Merthyr ac Aberdâr
Y diwydiannwr a pherchennog gwaith haearn John Joshia Guest oedd Aelod Seneddol cyntaf yr etholaeth ar ran y Blaid Ryddfrydol o 1832 hyd ei farwolaeth ym 1852. Safodd etholiad cystadleuol unwaith yn ei yrfa seneddol yn etholiad cyffredinol 1837.
Olynwyd Guest gan Henry Austin Bruce (Arglwydd Aberdâr wedyn) ar ran y Rhyddfrydwyr. Dim ond unwaith bu iddo yntau sefyll etholiad cystadleuol hefyd sef etholiad Cyffredinol 1859.
Cafodd Henry Richard a Charles Herbert James eu hail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1885 a 1886
Ymddiswyddodd James o'r Senedd ym 1888 a bu isetholiad ar 14 Mawrth a chafodd David Alfred Thomas ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr Gladstonaidd i'w olynu.
Bu Henry Richard marw ym mis Awst 1888 a chafwyd isetholiad ar 26 Hydref 1888.