Keir Hardie
Gwleidydd Llafur o'r Alban oedd James Keir Hardie (15 Awst 1856 – 26 Medi 1915). Cafodd ei eni yn Newhouse, Yr Alban, yn 1856. Priododd Lillie Wilson yn 1879. Etholwyd Hardie yn aelod seneddol 'Merthyr Tudful ac Aberdâr', de Cymru yn 1900, gan ddod yn aelod seneddol cyntaf y Blaid Llafur yng Ngwledydd Prydain - carreg filltir bwysig yn hanes y Blaid Lafur. Un aelod seneddol arall a etholwyd y flwyddyn honno, ond o'r fesen fach a blanodd Hardy, tyfodd y blaid yn goeden rymus gan gipio'r awenau yn 1924, yn brif blaid drwy Wledydd Prydain. Yn 1900, galwodd Hardie nifer o undebau a grwpiau sosialaidd at ei gilydd a chytunodd y cyfarfod i ffurfio Labour Representation Committee, a alwyd yn ddiweddarach yn Blaid Lafur. Fel Albanwr a sosialydd radicalaidd, roedd Hardie yn cefnogi hunanlywodraeth i'r Alban, Cymru ac Iwerddon. Roedd ganddo gydymdeimlad naturiol â'r Cymry ac roedd yn ddiflewyn ar dafod ei farn ar y modd roedd Cymru yn cael ei thrin dan y drefn Brydeinig. Ym 1911, pan arwisgwyd y tywysog Edward yn Dywysog Cymru mewn sioe rwysgfawr yng Nghaernarfon a drefnwyd gan David Lloyd George, barn Hardie oedd:
Mab llwyn a pherth ydoedd; Mary Keir, morwyn wrth ei gwaith yn Legbrannock oedd ei fam. Mae'r bwthyn bach lle'i ganwyd yn dal i'w weld hyd heddiw ar y ffordd a elwir yn 'Edinburgh Road' yn Newhouse. Yn ei gân enwog i 'Carlo' (Tywysog Siarl, Lloegr) dywed Dafydd Iwan a'i dafod yn ei foch fod 'Llun Ken Hardie wrth ei wely'. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia