Breisach am Rhein
Dinas yn ardal Breisgau, yn rhanbarth Breisgau-Hochschwarzwald o dalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen yw Breisach am Rhein, neu yn fyr Breisach. Saif ar lan ddwyreiniol afon Rhein, sy'n ffurfio'r ffin â Ffrainc yma. Mae tua hanner y ffordd rhwng Freiburg a Colmar, tua 20 km o bob un. Ar ochr arall yr afon, gyda phont yn eu cysylltu, mae Neuf-Brisach yn Alsace, Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 14,352. Ceir olion hen sefydliad Celtaidd ar y bryn lle saif yr hen ddinas, ac mae'r enw ei hun o darddiad Celtaidd. Ar un adeg, pan fyddai llif yn yr afon, byddai'r bryn yn troi'n ynys. Dim ond wedi i Johann Gottfried Tulla sythu cwrs yr afon yn y 19g y daeth hyn i ben. Dechreuwyd adeiladu Eglwys Gadeiriol Sant Steffan yn y 13g, ac yn y 16g roedd Breisach yn gaer bwysig yn perthyn i'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas yn 1793, yn y rhyfeoledd a ddilynodd Chwyldro Ffrainc, ac eto tua diwedd yr Ail Ryfel Byd wrth i'r Cyngheiriaid ymladd i groesi afon Rhein. Mae cynhyrchu gwin yn bwysig yma, ac mae Badische Winzerkeller eG yn Breisach yn un o seleri gwin mwyaf Ewrop. |
Portal di Ensiklopedia Dunia