Beryl Bainbridge
Llenor o Saesnes oedd Y Fonesig Beryl Margaret Bainbridge DBE (21 Tachwedd 1932 - 2 Gorffennaf 2010)[1]. Roedd hi'n adnabyddus yn bennaf am ei gweithiau ffuglen seicolegol, yn aml straeon echrysol wedi'u gosod ymhlith dosbarth gweithiol Lloegr. Enillodd Bainbridge Wobr Whitbread am y nofel orau ym 1977 a 1996; cafodd ei henwebu pum gwaith ar gyfer y Wobr Booker. CefndirGaned Beryl Bainbridge yn Lerpwl a'i magu yn Formby gerllaw. Ei rhieni oedd Richard Bainbridge a Winifred Baines. Roedd hi'n mwynhau ysgrifennu, ac erbyn 10 oed roedd hi'n cadw dyddiadur.[2] Cafodd wersi llais a, phan oedd hi'n 11 oed, ymddangosodd ar sioe radio Northern Children Hour,[3] ochr yn ochr â Billie Whitelaw a Judith Chalmers. Cafodd Bainbridge ei diarddel o Ysgol Merched Merchant Taylors (Crosby) oherwydd iddi gael ei dal a "cherdd fudr" (fel y disgrifiodd hi yn ddiweddarach), a ysgrifennwyd gan rywun arall, ym mhoced ei ffrog.[4] Yna aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Cone-Ripman, Tring, Swydd Hertford (Ysgol Celfyddydau Perfformio Tring Park erbyn hyn),[5] lle canfu ei bod yn dda mewn hanes, Saesneg a chelf. Bywyd personolYr haf y gadawodd yr ysgol, fe syrthiodd mewn cariad â chyn Carcharor rhyfel o'r Almaen a oedd yn aros i gael ei ddychwelyd. Am y chwe blynedd nesaf, bu'r cwpl yn gohebu ac yn ceisio cael caniatâd i'r dyn o'r Almaen ddychwelyd i Brydain fel y gallent briodi. Ond gwrthodwyd caniatâd a daeth y berthynas i ben ym 1953. Yn y flwyddyn ganlynol (1954), priododd Bainbridge yr artist Austin Davies. Ym 1958, ceisiodd hunanladdiad trwy roi ei phen mewn popty nwy.[6] Ysgarodd y ddau yn fuan wedi hynny, gan adael Bainbridge yn fam sengl i ddau blentyn. Yn ddiweddarach, cafodd drydydd plentyn gan Alan Sharp, yr actores Rudi Davies (ganwyd 1965).[2] Roedd Sharp ar ddechrau ei yrfa fel nofelydd ac awdur sgriptiau. Yn ddiweddarach, byddai Bainbridge yn gadael i bobl feddwl mai ef oedd ei hail ŵr; mewn gwirionedd, ni wnaethant briodi erioed ond anogodd y berthynas hi i droi ei llaw at ffuglen. GyrfaTreuliodd Bainbridge ei blynyddoedd cynnar yn gweithio fel actores, ac y 1961 ymddangosodd mewn pennod o’r opera sebon Coronation Street yn chwarae protestiwr gwrth niwclear. Er mwyn helpu i lenwi ei hamser, dechreuodd Bainbridge ysgrifennu, yn seiliedig yn bennaf ar ddigwyddiadau o'i phlentyndod. Gwrthodwyd ei nofel gyntaf, Harriet Said ..., gan sawl cyhoeddwr, a chanfu un ohonynt fod y cymeriadau canolog yn "wrthun bron y tu hwnt i gred". Fe’i cyhoeddwyd yn y pen draw ym 1972, bedair blynedd ar ôl ei thrydedd nofel (Another Part of the Wood). Cyhoeddwyd ei hail a'i thrydedd nofel (1967/68) ac fe'u derbyniwyd yn dda gan feirniaid er iddynt fethu ag ennill llawer o arian.[4][7] Ysgrifennodd a chyhoeddodd saith nofel arall yn ystod y 1970au, a dyfarnwyd gwobr Whitbread i'r bumed, Injury Time, am y nofel orau ym 1977. Ar ddiwedd y 1970au, ysgrifennodd sgript sgrin yn seiliedig ar ei nofel Sweet William . Rhyddhawyd ffilm seiliedig ar y llyfr, yn serennu Sam Waterston, ym 1980.[8] O 1980 ymlaen, ymddangosodd wyth nofel arall. Addaswyd nofel 1989, An Awfully Big Adventure, yn ffilm ym 1995, gyda Alan Rickman a Hugh Grant yn serennu. Yn y 1990au, trodd Bainbridge at ffuglen hanesyddol. Parhaodd y nofelau hyn i fod yn boblogaidd gyda beirniaid, ond y tro hwn, roeddent hefyd yn llwyddiannus yn fasnachol.[4] Ymhlith ei nofelau ffuglen hanesyddol mae Every Man for Himself, am drychineb y Titanic ym 1912, yr enillodd Bainbridge Wobr Whitbread 1996 am y nofel orau, a Master Georgie, a osodwyd yn ystod Rhyfel y Crimea, yr enillodd Wobr James Tait Black am ffuglen 1998 amdani. Mae ei nofel olaf, According to Queeney, yn adroddiad wedi'i ffugio o flynyddoedd olaf bywyd Samuel Johnson fel y'i gwelir trwy lygaid Queeney Thrale, merch hynaf Henry a Hester Thrale. Cyfeiriodd yr Observer ati fel "... nofel hynod ddeallus, soffistigedig a difyr".[9] O'r 1990au, bu Bainbridge hefyd yn feirniad theatr ar gyfer y cylchgrawn misol The Oldie . Anaml y byddai ei hadolygiadau yn cynnwys negyddol, ac fel rheol fe'u cyhoeddwyd ar ôl i'r ddrama gau.[4] Ar ddiwedd y 1970au, ysgrifennodd sgript sgrin yn seiliedig ar ei nofel Sweet William . Rhyddhawyd ffilm seiliedig ar y llyfr, yn serennu Sam Waterston, ym 1980.[8] Anrhydeddau a gwobrauYn 2000, fe’i penodwyd Bainbridge yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE). Ym mis Mehefin 2001, dyfarnwyd gradd doethur er anrhydedd i Bainbridge gan y Brifysgol Agored.[10] Yn 2003, dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth David Cohen iddi ar y cyd â Thom Gunn. Yn 2005, cafodd y Llyfrgell Brydeinig lawer o lythyrau a dyddiaduron preifat Bainbridge.[2] Yn 2011, dyfarnwyd anrhydedd arbennig iddi ar ôl ei marwolaeth gan bwyllgor Gwobr Booker.[11] Blynyddoedd olafYn 2003, dechreuodd ŵyr Bainbridge, Charlie Russell, ffilmio rhaglen ddogfen, Beryl's Last Year, am ei bywyd. Manylodd y rhaglen ddogfen ar ei magwraeth a'i hymdrechion i ysgrifennu nofel, Dear Brutus (a ddaeth yn ddiweddarach The Girl in the Polka Dot Dress ); fe'i darlledwyd yn y Deyrnas Unedig ar 2 Mehefin 2007 ar BBC Four . Yn 2009, rhoddodd Bainbridge y stori fer Goodnight Children, Everywhere i brosiect Ox-Tales Oxfam, pedwar casgliad o straeon o'r DU a ysgrifennwyd gan 38 awdur. Cyhoeddwyd ei stori yn y casgliad "Air". Bainbridge oedd noddwr Gwobr Llyfr y Bobl. Roedd Bainbridge yn dal i weithio ar The Girl in the Polka Dot Dress ar adeg ei marwolaeth. Mae'r nofel, a oedd yn seiliedig ar daith bywyd go iawn Bainbridge a wnaed ledled America ym 1968, yn ymwneud â'r ferch ddirgel yr honnir iddi fod yn rhan o lofruddiaeth Robert Kennedy. Golygwyd y nofel ar gyfer ei gyhoeddi gan Brendan King ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mai 2011 gan Little, Brown.[12]. Cyhoeddwyd cofiant King i Bainbridge Beryl Bainbridge: Love by All Sorts of Means ym mis Medi 2016.[13] MarwolaethBu farw Bainbridge yn 77 oed, mewn ysbyty yn Llundain ar ôl i'w chanser dychwelyd.[14][15] Claddwyd hi ym Mynwent Highgate . LlyfryddiaethNofelau
Casgliadau o straeon byrion
Ffeithiol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia