Ben Woodburn
Pêl-droediwr Cymreig yw Benjamin "Ben" Woodburn' (ganwyd 15 Hydref 1999) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru ac yn aelod o dîm ieuenctid Cymru ers oedd yn 13 oed. Ym mis Tachwedd 2016, daeth Woodburn yn sgoriwr gôl ieuengaf clwb Lerpwl erioed, a hynny yn ystod ei ail gêm erioed i'w glwb.[2] Enwyd Woodburn yn aelod o garfan Cymru am y tro cyntaf ar 16 Mawrth 2017[3] Sgoriodd gôl gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ar 2 Medi 2017.[4] MagwraethFe'i ganed yn Nottingham ond symudodd y teulu i Tattenhall, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mynychodd ysgol Bishop Heber yng Nghaer ac yna Rainhill High School, sef ysgol bêl-droed y Liverpool FC Academy Education Centre.[5] Mae ganddo'r hawl i chwarae i Gymru gan mai Cymraes oedd ei Nain, ar ochr ei fam.[6] Cynigiwyd lle iddo yn nhîm dan-16 Lloegr yn Awst 2014 ond gwrthododd hynny.[6] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia