BaraGwneir bara, sy'n fwyd poblogaidd iawn, o does wedi'i bobi. Mae toes yn cynnwys blawd a dŵr, ac yn aml halen, a burum i godi'r bara. Mae llawer o wahanol fathau o fara o lawer o wledydd gwahanol. Bwyteir bara ers cychwyn amaethyddiaeth, filoedd o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl pob sôn, cafodd y dorth gyntaf yng Nghymru ei phobi ym Mhump Hewl. Gelwir y math arferol yn "dorth" – telpyn cymharol fawr – a cheir torthenni wedi'u gwneud o flawd mâl ac o flawd cyflawn. Ceir mathau llai hefyd, fel rholiau fel y Brioche a gall eu gwead (texture), eu blas, eu maint a'u cynnwys amrywio'n fawr. Ceir mathau hir hefyd, fel y Baguette o Ffrainc, sydd tua 65 centimetr (26 mod) o hyd. Cymysgir y blawd a'r dŵr yn does; defnyddir burum neu bowdr codi fel arfer i godi'r toes, er bod rhai mathau'n ddi-furum (bara croyw). Defnyddir bara croyw mewn seremoniau crefyddol fel y Cymun Cristnogol a cheir nifer o ymadroddion am fara yn y Beibl: "Nid ar fara'n unig y bydd byw dyn", neu "wrth chwys dy wyneb y bwytei dy fara". Mae nifer o dechnegau modern o wella'r bara ar gyfer ei werthu gan gynnwys ei roi dan bwysau eithriadol i greu'r swigod neu ychwanegu cemegolion i wella'r blas, ei wead, ei liw neu ei brisyrfio. Ychwanegir ffrwythau, cnau a saim ar adegau e.e. bara brith. Defnyddir briwsion bara i wneud stwffin a gellir pobi tafellau o fara i wneud pwdin bara. Y dull amlaf o'i wyta yn y Gorllewin yw ar ffurf brechdanau, sef tafelli o fara, gydag jam, menyn, gaws neu enllyn arall rhwng y ddau damed o fara. O grasu'r bara, ceir tost. Sonir am grasu bara yn chwedl Llyn y Fan Fach: "Cras dy fara, nid hawdd fy nala". Yn ffigyrol, caiff y gair ei ddefnyddio am fwyd, pryd o fwyd, cynhaliaeth, ffon cynhaliaeth neu fywoliaeth person. GeirdarddiadDaw'r gair "bara" o'r Frythoneg "baragi" a'r Gelteg "baregi", ac fe'i ceir yn yr Hen Gernyweg a'r Llydaweg 'bara', Hen Wyddeleg: "bairgen". "Bara" hefyd yw'r gair lluosog.[1] Mae'r cofnod Cymraeg cynharaf i'w gael yn:
Mae'r gair "torth", ar y llaw arall, yn fenthyciad o'r Lladin, "torta", ac fe'i ceir mewn Cernyweg Canol 'torth' ac mewn Llydaweg Canol "torz" a Gwyddeleg Canol "tort". Mathau o fara
Tybed beth fyddai gair y gogledd am mate (matiau), sef y donnen o fawn ar wyneb y gors.[2]
Wrth son am y flwyddyn 1866 yng nghyd destun trafod y gair Saesneg tafodiaethol (?) reemy soniodd W Meredith Morris fel hyn:
Roedd 1866 yn flwyddyn ansefydlog iawn ym Mhrydain yn gyffredinol gydag eira mawr yn Ionawr a gwanwyn oer a sych. Roedd Mehefin a Gorffennaf yn gynnes gyda therfysg a’r hydref yn gynnes a gwlyb.[4] Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia