Baedd gwyllt
O'r Baedd gwyllt neu'r Baedd coed (Sus scrofa) y datblygwyd y mochyn dof. Fe'i ceir trwy'r rhan helaeth o ganolbarth Ewrop a'r tiroedd o gwmpas Môr y Canoldir, yn cynnwys Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica, ac ar draws rhan helaeth o Asia cyn belled i'r de ag Indonesia. Oni ddywedir yn wahanol yn yr ysgrif hon, defnyddir y term "baedd gwyllt" i olygu'r rhywogaeth, nid y gwryw yn unig. Adnabyddid y baedd gwyllt (Sus scrofa) gynt fel gwythwch ac erys yr enw ar sawl ffurf mewn llenyddiath ac enwau lleoedd. Gellir dadlau mai mochyn gwyllt fyddai'n enw mwy priodol arno. Ni ddylid ei ddrysu gyda'r mochyn fferal sydd yn anifail a ddychwelodd i'r gwyllt ar ôl dianc o gaethiwed. Credir i'r baedd gwyllt ddiflannu o wledydd Prydain ac Iwerddon erbyn yr 17g, ond mae'n parhau yn bur gyffredin ar gyfandir Ewrop. Yn ddiweddar mae nifer o boblogaethau wedi eu sefydlu yn Lloegr trwy anifeiliaid ddianc o ffermydd, ac mae un o'r poblogaethau hyn, yn Swydd Henffordd, yn agos i ororau Cymru. Ceir pedair isrywogaeth:
Ystyrir y mochyn dof fel isrywogaeth arall, Sus scrofa domestica, er bod rhai awduron yn ei ystyried yn rhywogaeth wahanol, Sus domestica. Bu ymyrraeth dyn yn gyfrifol am ehangu dosbarthiad y baedd gwyllt i'r graddau ei fod ymysg yr anifeiliad mwyaf ei ymledaeniad yn y byd.[2] Diolch i'w niferoedd uchel, ei ymledaeniad eang a'i allu i gyfaddasu i sefyllfaoedd ecolegol amrywiol, nid oes pryder arbennig am ei ddyfodol yn nhyb yr IUCN[1] ac fe ddatblygodd i fod yn rywgaeth goresgynol mewn rhannau o'r parthau y'i cwyflwynwyd iddynt. Tarddodd yr anifail, maen debyg, yn Ne-ddwyrain Asia yn ystod y Pleistosen cynnar[3] gan orchfygu rhywogaethau eraill o deulu'rSuidae wrth iddo ymledu ar hyd yr Hen Fyd.[4] Yn ôl yr wybodaeth oedd ar gael yn 1990, adnabyddir 16 is-rywogaeth, a ddosrennir i bedwar grwp rhanbarthol ar sail uchder y benglog a hyd yr asgwrn deigrol (lachrymal bone).[5] Mae'r rhywogaeth yn byw mewn cymunedau matriarchaidd sy'n cynnwys hychod sy'n cyd-berthyn, a'u hepil (gwryw a benyw). Byw'n unig y mae'r baeddod y tu hwnt i'r tymor bridio.[6] Y blaidd yw prif elyn y baedd gwyllt dros y rhan fwyaf o'i ddosbarthiad, ag eithrio'r Dwyrain Pell ac Ynysoedd y Swnda lle mae'r teigr a'r ddraig Comodo, yn eu trefn, yn cymryd ei le.[7][8] Ganddo hanes hir o gydberthynas â phobl, gan ei fod yn hynafiad y rhan fwyaf o fridiau'r mochyn dof ac yn un o anifeliaid mawr yr arferid ei hela ers milenia.
Disgrifiad corfforol![]() Mae'r baedd gwyllt yn aelod praff o gorff o deulu'r Suidae gyda choesau byrion cymharol denau. Mae'r boncorff yn fyr ac yn swmpus, gyda phenôl cymharol llai datblygedig. Cyfyd y rhan sydd y tu ôl i'r esgyrn palfais yn grwbyn yn arwain o wddf byr a phraff i'r graddau ei fod yn ddisymyd o'r bron. Mae pen yr anifail yn fawr iawn, yn cymryd traean o holl hyd y corff.[9] Mae adeiladwaith y pen yn gyfaddas i balu, gan weithredu fel swch dan nerth cyhyrau'r gwddf, sydd yn caniatáu iddo wyrdroi cyfaint sylweddol o bridd.[10]. Mae'n atebol i balu 8–10 cm (3.1–3.9 mod) o dir rhewedig ac fe all droi meini yn pwyso 40–50 kg (88–110 lb) beniwaered.[7] ![]() Mae'r llygaid yn fychain a thwfn yn y pen, a'r clustiau'n hir a llydan. Mae i'r rhywogaeth ddanedd-llygad datblygedig sydd yn ymwthio allan yn y baeddod. Mae'r carnau mewnol yn fwy ac yn hwy na'r rhai allanol, ac yn alluog i wneud symudiadau sydyn[9] Mae'r anifail yn gallu rhedeg ar gyflymdra uchaf o 40 km/h a neidio i uchdwr o 140–150 cm (55–59 mod).[7] Mae dwyffurfiaeth rhywiol yn amlwg iawn yn y rhywogaeth, gyda baeddod yn nodweddiadol 5–10% yn fwy a 20–30% yn drymach na benywod. Mae gwrychyn o rawn yn rhedeg i lawr y cefn sydd yn arbennig o amlwg yn yr hydref a'r gaeaf.[12] Mae dannedd-llygad y baeddod yn llawer mwy amlwg na rhai'r hychod, ac yn tyfu gydol eu hoes. Mae'r llygad-dannedd uwch yn gymharol fyrach ac yn tyfu gwysg yr ochr yn fuan yn eu bywyd, gan raddol droi at i fyny wrth brifio. Mae'r dannedd-llygad is yn llawer hwy a miniog, gyda'r rhan weladwy yn mesur 10–12 cm (3.9–4.7 mod) o hyd. Yn y tymor cymharu mae'r baeddod yn datblygu haenen i feinwe o dan y croen a all fod yn2–3 cm (0.79–1.18 mod) o drwch, yn ymestyn o balfau'r ysgwydd i war y gynffon, er mwyn amddiffyn yr organau bywydol yn ystod ymladdfeydd. Mae baeddod yn meddu ar goden o faint ŵy ger agoriad y pidyn sydd yn casglu wrin ac yn bwrw allan arogl cryf. Nid yw union bwrpas yr organ hon yn llwyr hysbys.[13] ![]() ![]() Penderfynnir maintioli'r oedolion yn bennaf gan ffactorau amgylcheddol; nid yw baeddod sy'n mynychu cynefin sych a di-faeth yn cyrraedd yr un maintioli â'u cyffelybion sy'n mynychu parthau gyda bwyd a dŵr helaeth. Yn y rhan fwyaf o Ewrop mae baeddod ar gyfartaledd yn pwyso75–100 kg (165–220 lb), 75–80 cm (30–31 mod) o daldra at yr ysgwydd ac 150 cm (59 mod) o hyd y corff, tra bod hychod ar gyfartaledd yn pwyso 60–80 kg (130–180 lb), 70 cm (28 mod) o daldra ysgwydd ac140 cm (55 mod) o hyd corff. Mae'r gôt gaeaf yn wrychog a garw gydag isflew meddal a byr Gellir dosbarthu llais y baedd gwyllt i dri categori o sain:
Mae'r synnwyr ymarogli yn ddatblygedig iawn i'r graddau bod yr anifail yn cael ei ddefnyddio yn yr Almaen i ganfod cyffuriau.[15] Mae ganddo glyw main iawn hefyd, er mai gwan yw ei olwg[13]: Nid oes ganddo olwg lliw[15]: nid yw'n gallu adnabod person yn sefyll cwta 10-15 medr i ffwrdd[7] Mae'r mochyn yn un o bedair rhywogaeth mamalaidd hysbys sy'n meddu ar dderbynyddion nicotinig acetylcholaidd sydd yn eu hamddiffyn yn erbyn gwenwyn nadroedd. Y tair arall yw'r mongŵs, ratel a draenog, ac mae'r bedair yn tarddu o bedwar cellwyriad annibynnol.[16] EcolegCynefin ac Arferion Ymochel![]() ![]() Mae'r baedd gwyllt yn cyfaneddu amrywiaeth eang o gynefinoedd, o'r boreal gogleddol (taiga) i ddiffaethdir.[13] Yn yr ardaloedd mynyddig fe all hyd yn oed gyfaneddu parthau alpaidd hyd at 1,900 medr ym mynyddoedd y Carpathian a hydat 3,600-4,000medr ym mynyddoedd Asia Ganol a Chasachstan.[13] Er mwyn goroesi mewn ardal, rhaid cael cynefin sy'n bodlonni tair amod: ardaloedd o bryglwyni dwys sy'n darparu cysgod rhag rheibwyr, dŵr ar gyfer yfed ac ymdrochi ynddo, ac absenoldeb eira rheolaidd.[17] Y prif gynefinoedd mwyaf hoff gan faeddod gwyllt yn Ewrop yw coed collddail a choedwigoedd cymysg, gyda choedwigoedd derw a ffawydd yn amgylchynu corsydd a dolydd y mwyaf ffafriol. Mae coedwigoedd conifferaidd ar y cyfan yn llai pwysig iddynt. Mae baeddod gwyllt yn nofwyr digonol, yn alluog i gyrraedd pellteroedd meithion. Yn 2013 adroddwyd am faedd a lwyddodd i gyrraedd ynys Alderney (Ynysoedd y Sianel) o Ffrainc. Oherwydd pryderon am haint fe'i saethwyd a'i losgi'n ulw.[18] Mae baeddod gwyllt yn ymochel mewn cysgodfeydd gyda deunydd ynysu iddynt megis canghennau sbriws a gwair sych. Triga deuluoedd cyfain yn y cysgodfeydd hyn (er i'r gyrwywod ymochel ar wahan), ac fe'i ceir fel arfer yng nghyffiniau nentydd, coedwigoedd gwlyb a phrysglwyni dyrys neu welltir tal. Ni fydd baeddod fyth yn maeddu eu cysgodfa, ac fe ymorchuddiant â phridd a nodwyddau pin pa font yn cael eu poenydio gan bryfed.[7] YmborthMae'r baedd gwyllt yn anifail hollysol amryddawn, a'i amrywiaeth o fwyd o'r un raddfa i'r hyn y mae dyn â'r hyn y mae dyn yn ei fwyta.[10] Gellir dosbarthu eu bwyd yn ôl pedwar categori:
Ymddygiad gymdeithasol a chylch bywydMae baeddod gwyllt yn nodweddiadol gymdeithasol, yn byw mewn cenfeiniau matriarchaidd a eill gynnwys hychod hesb a mamau â'u hepil dan arweiniad hen fatriarch. Gedy'r gyrywod eu cenfaint pan gyrhaeddant 8-15 mis oed, tra erys y benywod gyda'u mamau neu sefydlu tiriogaethau newydd gerllaw. Mae gyrywod lled-aeddfed yn byw mewn grwpiau llac, tra bydd oedolion aeddfed a heneiddiedig yn dueddol o fyw'n unig y tu allan i'r tymor bridio. (Arferion unigolyddol y baeddod sydd yn rhoi i'r baedd gwyllt ei enw mewn nifer o ieithoedd Romàwns. Er mai aper yw'r term Lladin am "faedd", tarddiad y geiriau sanglier yn y Ffrangeg a cinghiale yn yr Eidaleg yw singularis porcus, sef y Lladin am "mochyn unig"[19].[6])
Mae'r cyfnod bridio yn y mwyafrif o ardaloedd yn parhau o Dachwedd i Ionawr, er nad ydi'r cymharu ond yn para mis a hanner. Cyn y paru, datblyga'r gyrywod eu harfwisg isgroenol mewn paratoad i herio cystadleuwyr yn ystod yr ymlid. Mae'r ceilliau yn dyblu eu maint ac mae'r chwarennau yn dydoli hylif melynaidd ewynnol. Pan yn barod i genhedlu, mae baeddod yn teithio pellteroedd meithion yn chwilio am genfaint o hychod, yn bwyta fawr ddim ar ei ffordd. Unwaith y caiff genfaint, mae'r baedd yn erlid yr anifeiliaid ifainc i ffwrdd gan ymlid yr hychod yn ddidrugaredd. Rhaid fydd iddo hefyd ymryson yn ffyrnig â gwrthwynebwyr potensial[13] Gall faedd unigol baru â 5-10 hwch.[7]. Erbyn diwedd y cyfnod hwn o ymlid bydd y baeddod yn aml wedi eu maeddu'n ddifrifol gan golli 20% o bwysau eu corff,[13] gyda brathiadau i'r pidyn yn gyffredin.[20]. Amrywia gyfnod y cyfebriad yn ôl oed y fam dorog. Pery 114-130 niwrnod i fridwyr tro-cyntaf, hyd at 133-140 niwrnod mewn hychod hŷn. Caiff y perchyll eu bwrw rhwng Mawrth a Mai, gyda maint y torllwyth yn amrywio yn ôl oed a safon maeth y fam. Cynnwys y torllwyth arferol 4-6 porchell, gydag uchafswm o 4-6.[13] Bwrir y perchyll mewn nyth o frigau, gweiriau a dail, a phe ddigwydd i'r fam farw o flaen ei hamser fe mabwysiedir gan hychod eraill yn y cenfaint.[21] Mae perchyll newydd anedig yn pwyso rhwng 600–1,000 grams, heb isflew'r moch hy^n ac yn meddu ar un blaenddant sugno a un ysgythrddant ar ddwy ochr yr ên.[13] Mae cystadleuaeth ffyrnig rhwng y perchyll am y tethi mwyaf cynhyrchiol o laeth, gan fod y rhai sydd yn ennill y maeth mwyaf yn tyfu'n gynt ac yn magu cyfansodiad cryfach.[21] Nid yw'r perchyll yn gadael y wâl yn eu hwythnos gyntaf. Petai'r fam yn absennol mae'r perchyll yn closio'n agos at ei gilydd. Pan yn bythefnos oed bydd y perchyll cydymdeithio â'r fam. O flaen peryglon mae'r perchyll un ai'n sefyll yn ddisymud neu'n cuddio, gan ddibynnu ar eu cuddliw i'w hamddiffyn. Mae gwisg newydd-anedig y perchyll yn pylu ar ôl tri mis, a chaiff wisg yr oedolyn erbyn wyth mis. Er bod cyfnod y llaethiad yn para 2.5–3.5 mis, dechreua'r perchyll arddangos ymddygiad ymborthi oedolion pan yn 2–3 weeks. Bydd y deintiad parhaol yn gyflawn yn 1-2 flynedd oed. ac eithrio ysgythrddannedd y gyrwod (sy'n tyfu trwy'i hoes gan droi'n sylweddol wrth heneiddio), ymetyl twf y dannedd tua chanol y bedwaredd flwyddyn. Cyrhaedda'r hychod aeddfedrwydd rhywiol yn flwydd oed, a'r baeddod flwyddyn yn hwyrach. Fodd bynnag, ni ddigwydd estrws yr hychod fel arfer tan ar ôl dyflwydd oed, tra na fydd baeddod yn dechrau cyfranogi yn yr ymlid tan ar ôl4-5 mlynedd, gan nad yw'r baeddod hy^n yn caniatau iddynt baru.[13] Eu hoedledd uchaf yn y gwyllt yw 10-14 mlynedd, er nad yw llawer yn goroesi fwy na 4-5 mlynedd.[22] Bu i anifeiliaid mewn caethiwed fyw am 20 mlynedd.[7] TerminolegO'r Lladin y daw'r enw rhywogaethol scrofa, sy'n golygu 'hwch'[23] gwythwch [gŵydd3+hwch] eg. ll. gwythychod (mochyn gwyllt, hwch coed, baedd gwyllt): :13g. C 682-3, ar[i]al guythuch urth ervid.
Digwydd fel enw nant ger Cemais, Sir Benfro, ac mewn enw lleoedd, e.e. Pwll y Gwythwch (poll hir guidhuc), LL 245, Blaengwythwch ger Carreg Cennen, Sir Gaerfyrddin, ac o bosibl Cilgwythwch yn Llanrug, Gwynedd.[24]. baedd [H. Grn. bahet, gl. aper vel verres] eg. ll. baeddod, baidd, beiddi (mochyn gwryw heb ei ysbaddu, mochyn (gwyllt) ysgithrog, hefyd yn ffig., yn enw. am ymladdwr ffyrnig):
Ar lafar, ‘danfon yr hwch at y baedd’, ‘Mi godis ’y ngwrychyn fel baedd cynddeiriog’, WVBD 35; ‘yr ’wch yn mwyn bædd’, GTN 61; hefyd am ddyn sy’n ymddwyn yn frwnt, yn enw. wrth ferched, ‘Hen fadd yw e’ (canolbarth Cered.). b Her. Llun o faedd; un o symbola hwch [H. Grn. hoch, gl. porcus, Crn. C. hoch ‘mochyn’, H. Lyd. hoch, gl. aper, Llyd. Diw. houc’h, hoc’h, H. Wydd. socc (yn y gair soccsáil ‘hwch y môr’), Gwydd. C. soc ‘trwyn mochyn; swch’: < Clt. *sukko- o’r gwr. IE. *sū̆(-s) ‘mochyn’; gw. hefyd swch] eb.g. (bach. hychan, hychig) ll. hychod, (Cym. C. (?ar ôl rhif. yn unig)) hych. a Mochyn benyw; (yn wr.) mochyn, hob, hefyd yn ffig. creadur brwnt, ac yn dros.:
Ar lafar yn gyffredinol am wraig front neu lac ei moesau, ‘yr hen hwch fudr’, a hefyd am eneth fach sydd wedi ei baeddu ei hun yn ofnadwy, ‘Wel dyma hwch!’[24]. twrch [H. Grn. torch, gl. magalis, H. Lyd. torch, gl. uerres, Llyd. C. tourch, Llyd. Diw. tourc’h, H. Wydd., Gwydd. C. a Diw. torc: ?< IE. *tu̯orkos, cf. Afesteg θβərəsa- ‘baedd’, o’r gwr. IE. *tu̯erk- ‘torri’, cf. Gr. σάρξ ‘cnawd’] eg. (b. tyrches, ll. -i; bach. g. tyrchyn, twrchyn) ll. tyrch(od). Mochyn dof gwryw (yn enw. un disbaidd), baedd (gwyllt); gwahadden, Talpa europea; hefyd yn ffig.:
Ar lafar, ‘twrchyn … twrchod’ ‘A young castrated pig’, GDD 313; ‘Tyrchod odd y moch odd ginnyn ni’, GTN 827; hefyd yn yr ystyr ‘dyn annymunol’, ‘Yr ’en dwrchyn sarrug … ’All a ddim bod yn gwrtais i achub ’i fywyd’, GTN 827. Clywir tyrchas yn yr ystyr ‘a doctored sow’, GTN 832. Digwydd yn gyffredin yn y gymhariaeth ‘cysgu fel twrch(yn)’. Mae hefyd yn elfen mewn enw lleoedd, e.e. Cwm-twrch, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Morgannwg/Brycheiniog, Pentyrch, Morgannwg, &c. (cf. LL 44, Ecclesiam penn tyrch)[24]. Termau eraill: mochyn (generig); hob (mochyn, hwch; ystyr eir. a gaed o fethu a sylweddoli y gallai hwch gynt olygu 'mochyn' yn gyff. ac nid 'mochyn benyw' yn unig[24]. Diddorol yw nodi yma mai mochyn gwryw yw hwch yn y Llydaweg. HelaMae hanes eiconig hela'r baedd yn y traddodiad Cymreig wedi ei ymgorffori yn chwedl y Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen. Ceir hanes hela baedd neu gwythwch hefyd yn y Gododdin mewn glos rhyfeddol yn cofnodi suo gâni blentyn:
Gellir dehongli hela'r gwythwch yn y gân fel heliwr unigol (y tad), yn hela baedd gyda gwaywffon (llath) a phastwrn (llory). Pen- mae'n debyg yw'r fannod amhenodol hynafol, bannod nad yw'n bod yn y Gymraeg fodern ond sydd ag atgof ohono yn y Llydaweg fodern pimoch, sef mochynangen ffynhonnell. Lleolir y gerdd rhywle yn yr Hen Ogledd, ar Afon Derwennydd. Yn nherminoleg hela Saesneg fe ddynodir baeddod wrth wahanol dermau yn ôl eu hoedran:[25]
Hyweddu![]() Gydag un eithriad (y rhai yn Timor a Phapwa Gini Newydd), y baedd gwyllt yw hynafiad bridiau moch yr Hen Fyd.[26]. Dengys tystiolaeth archaeolegol i foch gael eu hyweddu o'r baedd gwyllt mor gynnar â 13,000–12,700 CC yn y Dwyrain Agos yn nyffryn y Tigris[27] lle'u rheolid yn y gwyllt nid yn annhebyg i'r modd y mae Giniwyr Newydd yn eu rheoli heddiw.[28] Cafwyd gweddillion moch wedi eu dyddio y gyfnod cyn 11,400 BC yn Cyprus. Bernir bod yr anifeiliaid yna wedi eu cyflwyno o'r tir mawr cyfagos sy'n awgrymu hyweddu yno cyn hynny.[29] Roedd yna hefyd hyweddiad ar wahan yn Tseina tua 8000 o flynyddoedd yn ôl.[30][31]. Agryma dystiolaeth DNAo ddeunydd lled-ffosilaidd o ddannedd ac esgyrn gên mewn moch Neolithig bod y moch domestig cyntaf yn Ewrop yn hannu o'r Dwyrain Agos. Yn ei dro fe ysgogodd hyn hyweddiad y boblogogaeth leol gan arwain at drydedd hyweddiad a barodd i enynau rhai y Dwyrain Agos ddiflannu o gyff y moch Ewropeaidd. Bu cyfnewidiadau cymhleth yn hanes moch domestig modern gydag allforio'r cyff Ewropeaidd yn ôl i'r Dwyrain Agos drachrefn[32][33] Awgryma gofnodion hanesyddol (dogfennol) i foch o Asia gael eu cyflwyno yn ystod yr 18ed. ganrif a'r 19eg ganrif gynnar.[30] Tuedda foch domestig feddu ar benôl mwy datblygedig na'u hynafiaid gwyllt.[34] Y Baedd EiconigHanesY baedd gwyllt oedd un o hoff helfeydd ein hynafiaid. Cafodd ei hela ar droed ac ar gefn ceffyl. Cawn flas ar gyffro'r helfa hon yn hanes y Twrch Trwyth yn chwedlau'r Mabinogi. Cafodd y baedd gwyllt ei ddarganfod mewn gwaddodion Neolithig yn ogofáu Llandegla a Thremeirchion; cafwyd dau ddarn o hiwmerws y bernid wrth eu maint mai i faedd(od) y perthynent yn haenau cyn-hanesyddol isaf cloddfa Castell Dyserth[35]. Cafwyd ysgythr o faint a awgrymai faedd gwyllt ymhlith y deunydd a adawyd gan Rufeiniaid Caerwent (efallai o Goed Gwent gerllaw).[36] Yn yr hen gofnodion Cymreig am arferion helfa'r twrch fe ddarllenwn: Penav cighely yw Carw, ac Ysgyvarnog, a Baedd Gwyllt, ac Arth. Fe'i crybwyllir hefyd yng Nghyfreithiau Hywel Dda lle y deddfyd tymor hela'r baedd i redeg o 9 Tachwedd i 1 Rhagfyr[36] Graddol iawn y newidiodd y baedd gwyllt i fochyn dof. Cymerwyd moch o'r gwyllt o bryd i'w gilydd, ac fe'u gadawyd i ymgynnal yn rhydd yn y goedwig am ran helaeth y flwyddyn. Cyfreithiau Hywel Dda fu'n gyfrifol am reoleiddio hyn trwy ddeddfu iddynt fod yn rhydd yn y modd hwn ond o Wyl Sant Ioan ganol yr haf, i'r Calan ym mis Ionawr. Er hyn, mewn sawl man yng ngwledydd Prydain arferai foch lled-wyllt o'r fath heolgarthu, ac fe'u bernid yn gasbeth a fu'n rhaid ei reoli. Mor hwyr yn wir a 1785 gorchmynodd cyngor tref Caerdydd i neb ganiatau Sows, Boars, and Piggs [to] ramble and go about the streets to the great Nuisance of the Inhabitants of the said Town[36][37]. Ni fu'r gwahaniaeth rhwng y gwir gwythwch (neu faedd gwyllt) a'r mochyn domestig erioed yn un clir, ac er nad oroesodd y gwythwch ar ei ffurf wreiddiol heibio'r 16g, parhaodd rhai o'i nodweddion yn y bridiau domestig y cyfnodau diweddarach. Mae esblygiad llawer o'r bridiau cyfarwydd i ni heddiw yn gymharol ddiweddar.[36] Goroesodd frîd o foch yn ucheldir yr Alban a ymdebygai mewn sawl ffordd i'r baedd gwyllt, yn ymgynnal yn rhydd ar y mynydd, ac yn aml yn ysbeilio cnydau ŷd a thatws. Roedd disgrifiad y moch hyn fel anifeiliaid â blew gwrychog ar hyd y gwar a'r cefn "grubbing up the roots of plants with their strong snouts" ac yn meddu ar gorff bychan a choesau hirion "whose food and safety depends on their activity" yn dwyn i gof foch plwyf Llanfechain ym Maldwyn fel y'u disgrifwyd yn 1872: "gaunt, long-legged, with a remarkable extension of snout. They can only be resembled to an alligator mounted on stilts, having bristles instead of scales. Their only recommendation is 'They travel well' alluding to their speed when driven along the road to market. Their length of leg might possibly might possibly enable them to compete with a greyhound".[36] Yn olaf ceir cofnod arall drophïau yn "The Island House" yng Nghas Llwchwr, sir Gaerfyrddin[38] yn cynnwys boar skull [which] appears to be that of a genuine wild boar as exists at the present time in parts of France, Germany and other Continental countries... it seems very improbable that the skull of a tame or half-tamed pig would be preserved as a "sporting trophy" [gydag osglau ceirw a phawen blaidd] ac sydd, yn nhyb yr awdur yn tystio i bresenoldeb yr anifeiliaid hyn yn rhodio unwaith goedwigoedd de Cymru.[36] MytholegGan fod y baedd yn anifail ffyrnig a pheryglus, mae'n ymddangos ym mytholeg llawer gwlad. Ym mytholeg Gwlad Groeg, mae Heracles yn hela Baedd Erymanthia, ac mae hefyd chwedl am hela Baedd Calydonia gan nifer o gymeriadau, yn cynnwys Atalanta. Un o'r elfennau pwysicaf yn chwedl Culhwch ac Olwen yw hanes hela'r Twrch Trwyth. Ceir straeon tebyg ym mytholeg Iwerddon hefyd. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn faedd a hwch am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Hychddwn. Ym mytholeg Hindwaeth, roedd y baedd Varaha yn un ffurf (avatar) o'r duw Vishnu. Gwnaed defnydd o'r baedd fel symbol o ffyrnigrwydd a dewrder gan filwyr o gyfnod y lleng Rufeinig Legio XX Valeria Victrix trwy Clan Campbell yn Ucheldiroedd yr Alban hyd at unedau o lu awyr yr Unol Daleithiau heddiw. Enwau LleoeddOni ddywedir yn wahanol, tynnir y data canlynol o Gronfa Ddata Melville Richards [1] Nodir ym yr atystiad cynharaf yn yr achosion lle bo dyddiad, neu fel arall, yr atystiad gyda'r mwyaf o wybodaeth. Mae'r ffurfiau gwreiddiol mewn italig. Banwen Gwythwch, Caerfyrddin
Blaen Gwythwch, Caerfyrddin
Cwm Gwythwch, Penfro
Cil Gwythwch, Llanrug
Cwm Dwythwch, Llanberis Dyma ran o lythyr a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru 11 Rhagfyr 1861 gan Rhodri Molwynog i'r perwyl canlynol:
Mae atystiadau i enw'r llecynfodd bynnag, boed y cwm ei hun, neu'r llyn cysylltiol ag ef, yn mynd yn ôl i 1303 fel Dwythwch a does dim atystiad i Gwythwch o gwbl:
Gwythwch, Penfro
Taxonomeg ac esblygiadMae astudiaethau MtDNA yn awgrymu mai o Dde-ddwyrain Asia (Indonesia ac Ynysoedd y Ffilipinau), mae'r baedd gwyllt yn tarddu, gan ymledu wedyn i dir mawr Ewrasia a gogledd Affrica.[3]. O Ewrop ac Asia daw'r ffosiliau cynharaf y rhywogaeth, ac mae rhain yn dyddio'n ôl i'r Pleistosen Cynnar.[39] Disodlwyd i raddau helaeth ei chwaer rhywogaeth S. strozzii erbyn cyfnod y Villafranchaidd gan S. scrofa.[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia