Atmosffer y Ddaear
![]() ![]() Mantell o nwyon amddifynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd "atmosffêr") sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo. Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nês at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15 km isaf. Tymheredd ac haenau'r atmosfferIsod gweler rhestr o haenau'r atmosffer o wyneb y ddaear i fyny. TroposfferCyfyngir tywydd y ddaear i'r haen gymharol denau sy'n ymestyn tua 8 km uwchben y pegynnau a thua 15 km uwch y gyhydedd. Mae'n cynnwys 85% o'r màs atmosfferig a'r anwedd dŵr i gyd bron. Mae tymheredd yr aer yn gostwng 1 °C ymhob 165 m o gynydd mewn uchder. StratosfferHaen yr awyrgylch sy'n cynnwys 90% o'r osôn yw'r stratosffer. Mae'r haen denau o osôn yn y stratosffer yn amsugno golau uwchfioled gan gynhyrchu gwres yn y broses. Amrywia'r tymheredd o tua -75 °C yn y tropoffin yn y trofannau i tua 10 °C yn y stratoffin uwchben pegyn yr hemisffer haf. Y tropoffin sy'n gwanhanu rhan yma'r atmosffer oddi wrth y Troposffer. MesosfferHaen uwchben y stratoffin ydy'r mesosffer. Mae'r tymheredd yn gostwng gyda chynnydd mewn uchder. Gall tymheredd y mesoffin gyrraedd -130 °C sef rhan oeraf yr awyrgylch; mae hyn yn digwydd uwchben pegyn yr hemisffer yn yr haf (nid gaeaf) oherwydd cylchrediad yr awyr. ThermosfferMae'r thermosffer wedi ei leoli uwch y mesosffer ac is yr ecsosffer. Mae ymbelydredd uwch fioled yn achosi ïoneiddiad yma. Mae'r thermosffer yn dechrau tua 90 km uwch y ddaear ac yn ymestyn tua 600 km. EcsosfferMae'r ecsosffer yn ymdoddi i'r cyfrwng rhyngblanedol ac mae'n dechrau tua 600 km uwch wyneb y ddaear. Prif gynnwys yr aer tenau yw swm bychan o ocsigen atomig i fyny at 600 km a chyfran gyfartal o hydrogen ac heliwm. Mae yna fwy o hydrogen nag o heliwm y tu hwnt i 2400 km. Carbon deuocsid yn atmosffer y DdaearMae Carbon deuocsid (CO2) yn nwy hynod bwysig yn atmosffer y Ddaear. Mae'n 0.04% (400 rhan allan o filiwn) o'r atmosffer.[1][2] Er mai cymharol isel yw'r cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all CO2 weithredu fel nwy tŷ gwydr ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear. Mae CO2 yn amsugno ac yn allyru ymbelydredd isgoch ar donfedd o 4.26 µm (modd dirgrynol) a 14.99 µm (modd dirgrynol a phlygiadol). Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau CO2 ers blynyddoedd, a gwelir nad yw'n sefydlog. Mae'r data'n dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gyda'r amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl (7,000 rha mewn miliwn) yn ystod y cyfnod Cambriaidd ac ar ei isaf (180 rhan mewn miliwn) yn ystod y Rhewlifiad cwaternaidd, sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at y presennol. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia