Uwchfioled
Ymbelydredd electromagnetig ydyw golau uwchfioled (neu UV, sef 'ultraviolet') gyda thonfeydd byrrach na golau gweledol, ond hirach na phelydr-x. Tarddai ei enw o'r ffaith fod ei donfedd electromagnetig o amlder uwch na'r rhai hynny y gall y llygad dynol ei weld fel 'fioled'. Daw llawer o'r belydrau uwchfioled o'r haul, fel y dengys y ddelwedd uchod. Effaith gormod ohono, wrth gwrs, ydy lliw haul a llosg haul. Ond mae iddo effaith da hefyd ar iechyd dyn ac anifail, gan ei fod yn creu fitamin D yn y croen - sy'n hanfodol i'r corff. Mae 98.7% o'r tonnau uwchfioled yn cael eu blocio gan yr atmosffêr. DarganfodDarganfyddwyd yr ymbelydredd hwn pan sylweddolodd y ffisegwr Almaenaidd Johann Wilhelm Ritter yn 1801 fod halenau arian yn tywyllu o'u gosod yn yr haul, ac mai'r rhan uchaf y spectrwm golau oedd yn gyfrifol am y tywyllu hwn. Fe'u galwodd yn donnau 'di-ocsigeneiddio'. Ychydig wedyn, bathwyd y term 'tonnau cemegol'. Yr ochr arall i'r spectrwm y mae tonnau is-goch a galwodd y rhain yn 'donau gwres'. |
Portal di Ensiklopedia Dunia