Amper
![]() Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r amper (symbol: A), a ddefnyddir i fesur cryfder cerrynt trydanol.[1] Tardd yr enw o enw tad electrodeinameg, sef André-Marie Ampère (1775–1836), mathemategydd a ffisegydd Ffrengig. Yn ymarferol, caiff yr enw'i dalfyru'n amp (lluosog Cymraeg: amps). DiffiniadYn ymarferol, gellir diffinio amper fel mesur o hyn-a-hyn o wefr trydanol yn pasio heibio i ryw bwynt neu'i gilydd am rhyw gyfnod (neu uned) o amser h.y. mae tua 6.241 × 1018 o electronau'n pasio heibio rhyw bwynt penodol yn gyfystyr ag amp.[2] Mae Deddf grym Ampere (Saesneg: Ampère's force law) yn hawlio fod grym atynol yn bodoli rhwng dwy weiren cyfochrog sy'n dargludo cerrynt trydanol. Cynhwysir y grym atynol hwn yn y diffiniad swyddogol o'r amper; sef "cerrynt cyson sy'n cynhyrchu grym atynol o 2 × 10–7 newton (uned) y fetr, o ran hyd, a hynny rhwng dau dargludydd syth, cyfochrog... wedi'u gosod un fetr oddi wrth ei gilydd mewn faciwm.[3] Yn nhermau mathemateg, gellir diffinio Deddf Grymiant Ampere fel: felly: Diffinnir uned SI gwefr (sef y coulomb) fel, "hyn-a-hyn o drydan sy'n llifo mewn un eiliad gan gerrynt o un ampere."[4] Ar y llaw arall, mae cerrynt o un ampere yn wefr o un coloumb sy'n pasio rhyw bwynt neu'i gilydd am gyfnod o un eiliad: I gyffredinoli, mae gwefr Q wedi ei ddiffinio gan gerrynt cyson I sy'n llifo dros gyfnod o amser t fel Q = It. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia