Akranes
Mae Akranes (IPA:ˈaːkraˌnɛːs) yn borthladd a bwrdeisdref ar arfordir orllewinnol Gwlad yr Iâ ac yn gorwedd oddeutu 20 km (12 mi) i'r gogledd o'r brifddinas, Reykjavík. Mae Akranes yn Rhanbarth Vesturland. Ar 1 Ionawr 2017 poblogaeth y dref oedd 7,051. Hi yw'r dref fwyaf yng ngorllewin Gwlad yr Iâ. Gwladychwyd Akranes yn y 9g ond bu'n rhaid aros nes 1942 cyn i'r dref dderbyn siarter bwrdeisdref. HanesSonia'r Landnámabók i Akranes gael ei gwladychu yn y 9g gan y brodyr Þormóður a Ketill, meibion Bresi. Daethont o'r Iwerddon. Dechreuodd y lle ymffurfio'n dref yng nghanol y 17g a hynny fel pentref bysgota. Yn 1942 fe roddwyd siarter iddi ac yn y blynyddoedd a ddilynodd cododd poblogaeth y dref yn sydyn iawn. Ceir sawl diwydiant a chydlogwr yn y dref. Agorwyd ffatri sment yn yr 1950au a gorsaf mwyndoddi alwminiwm yn 1998. Akranes GyfoesMae'r diwydiant bysgota yn parhau i fod yn un o brif gyflogwyr y dref ond mae masnach hefyd yn gyflogwyr sylweddol arall wrth i Akranes weithredu fel canolfan wasanaethu ar gyfer ardal wledig y tu cefn iddi. Disgwylir i'r dref i dyfu ymhellach yn sgil gwella trafnidiaeth gydag ardal Reykjavík Fawr yn dilyn adeiladu Twnnel Hvalfjörður sydd 5.57 km-long (3.46 mi) o hyd yn 1998. Dyma un o dwneli tan-ddŵr hiraf y byd. Poblogaeth
ChwaraeonMae'r dref yn gartref i glwb chwaraeon, Íþróttabandalag Akraness. Mae gan Akranes draddodiad pêl-droed hir. Mae'r tîm lleol, ÍA Akranes, wedi bod ymysg timau gorau'r wlad ers blynyddoedd. Ganed cyn chwaraewr Sheffield Wednesday ac Arsenal, y chwaraewr canol cae, Siggi Jonsson yn Akranes a bu'n chwarae gydag ÍA ar dri cyfnod gwahanol. Amgueddfa WerinLleolir Amgueddfa Werin Akranes yn y dref. Mae'r (Byggðasafnið í Görðum Akranesi) yn Garðar. Mae'n cynnwys arddangosfeydd ac arteffactau tu fewn a hefyd fel amgueddfa awyr agored yn debyg i Amgueddfa Werin Cymru. Sefydlwyd yr Amgueddfa yn 1953.[1] EnwogionJón Óskar - bardd GefailldrefiMae Akranes wedi gefeillio â'r trefi isod:
Oriel
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia