Afon Pripyat
Yr afon fwyaf sy'n llifo fewn i Afon Dnieper yw Afon Pripyat, neu hefyd yn Gymraeg, Pripiat (Wcreineg Прип'ять, Belarwseg Прыпяць neu Prypjaz, Rwsieg Припять neu Pripyat, Pwyleg Prypeć, Lithwaneg Pripetė, Almaeneg Pripetz) . Mae'n llifo drwy Belarws ac Wcráin yn Nwyrain Ewrop. Nodir hefyd, y geir tref o'r enw Pripyat yn Iwcrain. Dyma oedd y dref lle ffodd y trigolion yn dilyn tanchwa niwclear Chernobyl yn 1985. ![]() HanesMae'r afon 775 km o hyd yn tarddu o'r ogledd-orllewin eithafol Wcráin ger y ffin â Gwlad Pŵyl. O'r mynydd-dir hwn mae'n llifo i'r dwyrain am 200 km nes bydd yn croesi'r ffin â Belarws. Yno, mae'n llifo trwy'r diroedd isel Palessje a Chorsydd Pinsk, lle mae'n trawsnewid y tirlun wedi i'r eira doddi i dirlun o lynnoedd, corsydd ac ynysoedd goedwiog. Mae 50 cilomedr olaf y Pripyat llifo nôl fewn i Wcrain, yna ychydig o gilometrau islaw hen atomfa niwclear Chernobyl fewn i gronfa ddŵr dinas Kiev ac i mewn i'r Dnepr ac yn y pendraw i mewn i'r Môr Du. Yn y 1930au, draeniwyd llawer o ardal y Paless gan ryddhau dŵr drwy'r Pripyat. Y dref fwyaf ar yr Pripyat yw Pinsk ym Melarws, lle bydd camplas Dnieper-Bug yn cwrdd ag Afon Pina. Mae'r trefi Prypjats a Chernobyl sydd yn dalgylch y Pripyat wedi eu heffeithio ddrwg gan drychineb Chernobyl a tanchwa yr orsaf niwclear yn 1985. Y Pripyat mewn DiwylliantCredir mai ardal y Pripyat yw mamwlad yr ieithoedd Slafig gan rai fel y botanydd Pwyleg, Józef Rostafiński, am fod geiriau cynnar o'r iaith proto-Slafic yn brin o eiriau sy'n cyfeirio ar dirwedd, planhigion a choed nad sydd yng nghorsydd Prityat.[1] Mae'r afon yn chwarae rhan mewn caneuon o'r ardal, megis y gân Pripyat Polka gan Yad Kalashnikov Ban, [2] a cheir cyfeiriad i'r afon a'i hardal yn y gân Klezmer Iddewig Chernobyl gan y band Brave Old World.[3] EtymolegNoda Max Vasmer yn ei ddyddiadur etymolegol mai'r enw hanesyddol ar yr afon fel y'i galwyd yn y Brif Gronicl, y ddogfen Dwyrain Slafonig gynharaf, yw Pripet (Припеть). Noda farn ieithyddwyr bod y gair yn golygu "isafon" (tributary) gan ei gymharu i wrieddiau tebyg yn y Lladin a Groeg. Mae hefyd yn ymwrthod â'r farn fod y gair yn dod o'r gwraidd -пять, yn hytrach na'r gwreiddiol, -петь.[4] Gall y gair hefyd ddeillio o'r gair lleol pripech a ddefnyddir i ar gyfer afon gyda glan tywodlyd.[5] DolenniCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia