Afon Mynwy
Afon yn ne-ddwyrain Cymru a Lloegr yw Afon Mynwy (Saesneg: River Monnow), sy'n tarddu yn y Mers ac yn ymuno ag Afon Gwy. Ei hyd yw tua 26 milltir. Mae'r afon yn tarddu dros 1500 troedfedd i fyny ym mryniau gorllewin Swydd Henffordd, tua 4 milltir i'r de o'r Gelli Gandryll. Am ran gyntaf ei daith mae'n llifo i lawr i gyfeiriad y de yn agos i'r ffin ac yn croesi i Gymru ger Y Pandy, Sir Fynwy. Yna mae'n troi i'r dwyrain am rai filltiroedd cyn llifo ar gwrs de-ddwyreiniol am weddill ei chwrs, gan aros yn agos iawn i'r ffin â bryniau'r Mynydd Du i'r gorllewin. Mae'r pentrefi ger ei glannau yn cynnwys Yr Hencastell, Y Grysmwnt, Ynysgynwraidd a Llanoronwy. Ar ôl llifo trwy Drefynwy, lle mae pont hynafol enwog yn ei chroesi, mae'n ymuno ag Afon Gwy. Rhwng y Pandy ac Ynysgynwraidd mae'r pysgota am frithyll yn arbennig o dda. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia