Afon Marne
Afon weddol fawr yn Ffrainc sy'n un o ledneintiau Afon Seine yw Afon Marne. Mae'n llifo trwy'r ardal i'r dwyrain a'i de-ddwyrain o ddinas Paris. Ei hyd yw 514 km (319 milltir). Rhydd yr afon ei henw i départements Haute-Marne, Marne, Seine-et-Marne, a Val-de-Marne. Ymladdwyd dwy frwydr fawr ar lan Afon Marne River yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1914 a 1918. Mae Afon Marne yn tarddu ar lwyfandir Langres, ac yn llifo i gyfeiriad y gogledd cyn troi i'r gorllewin rhwng Saint-Dizier a Châlons-en-Champagne, i ymuno ag Afon Seine yn Charenton fymryn i fyny'r afon o Baris. CelfMae'r afon wedi ysbrydoli sawl arlunwr enwog yn y ddwy ganrif diwethaf, yn cynnwys:
Y Cysylltiad CeltaiddUniaethir Modron, mam Mabon fab Modron ym mytholeg Cymru, a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl yn amser y Celtiaid ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf. Départements a phrif drefi ar ei glannau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia