Adeiladu
Adeiladu yw'r broses o godi adeilad, pont, ffordd neu isadeiledd arall. Mae cynhyrchu'n wahanol, ac yn broses lle mae sawl gwrthrych tebyg yn cael ei greu; ond fel arfer, mewn adeiladwaith, un prynnwr sydd, ac un peth a gynhyrchir, a hynny'n aml yn digwydd yn y fan a'r lle yn hytrach na mewn ffatri. Mae adeialdu'n rhan bwysig o economi pob gwlad, ac yn dod a chanran uchel o'r cynnyrch mewnwladol crynswth (neu'r GDP): rhwng 6 a 9%, fel arfer.[1] Mae'r broses o adeiladu'n dilyn yr un camau: y cwsmer yn gweld yr angen ac yn canfod ffynhonnell o arian, comisiynu pensaer i wneud y cynlluniau a goruchwylio'r gwaith adeiladu, penodi cwmni o adeiladwyr i godi'r adeilad ac yn olaf - trosglwyddo'r adeilad gorffenedig i'r cwsmer. Mae cwmniau mawr yn cyflogi arebnigwyr eu hunain e.e. bricwyr, trydanwyr, plymwyr, saeri, peintwyr.[2][3] Ceir llawer o reolau er mwyn sicrhau diogelwch a safon, a goruchwylir yr holl waith, fel arfer, gan adran gynllunio a rheoleiddio, o fewn y sir. Yn ogystal â hyn, ceir llawer o reolau Ewropeaidd, gwladol a sirol sy'n sicrhau hefyd fod yr adeilad yn cadw ei wres, yn lleihau'r impact ar yr amgylchedd e.e. yn cynhyrchu ei ynni (paneli solar, cyfnewidwyr gwres geo) a'i ddŵr ei hun (ffynnon), neu'n cynnwys uned trin carthffosiaeth a chasglu, ailgylchu a phuro dŵr ar y safle.[4] Mae tair sector: adeiladau (preswyl a masnachol), isadeiledd (ffyrdd, carffosiaeth, pontydd) a diwydiannol (ffatrioedd, purfeydd olew, ffermydd o felinau gwynt). Gwariant gwledydd y byd yn y maes hwn
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia