Ysgyryd Fawr
Bryn yn Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru yw Ysgyryd Fawr (Saesneg: Skirrid neu Skirrid Fawr). Ysgyryd Fawr yw copa mwyaf dwyreiniol y Mynydd Du; saif gerllaw y Fenni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r de o'r bryn ceir pentref a phlwyf Llanddewi Ysgyryd; cyfeiriad grid SO331182. Uchder y mynydd yw 486 m (1596 tr). Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 142 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Cyfeirir ato weithiau fel "Mynydd Sanctaidd", gan fod traddodiad lleol fod ei ddaear yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon. Arfeid cymryd rhywfaint o'r pridd o'r bryn i'w wasgari ar gaeau, ar sylfeini eglwysi ac ar eirch. Ceir gweddillion bryngaer o Oes yr Haearn ac adfeilion eglwys Gatholig Sant Mihangel ar y copa. DosbarthiadDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 486 metr (1594 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001. Gweler hefyd
Dolennau allanol
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia