Ysgol y Creuddyn

Ysgol y Creuddyn
Arwyddair Dawn, Dysg, Daioni
Sefydlwyd 1981
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr. Trefor T. Jones
Lleoliad Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Llandudno, Conwy, Cymru, LL30 3LB
AALl Cyngor Sir Conwy
Staff tua 60
Disgyblion 658[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Bodysgallen, Gloddaeth, Penrhyn
Lliwiau Gwyrdd tywyll a melyn
Cyhoeddiadau "Mwy nag Addysg" - Ysgol y Creuddyn 1981-2006
Gwefan [3]

Ysgol uwchradd Gymraeg yn sir Conwy yw Ysgol Y Creuddyn. Fe'i lleolir ar safle pwrpasol ar gyrion Bae Penrhyn, rhwng Llandudno a Bae Colwyn. Fe'i henwir ar ôl Y Creuddyn, enw hanesyddol yr ardal a chwmwd yn yr hen gantref Rhos.

Roedd 658 o ddisgyblion yn Ysgol y Creuddyn yn 2015.[2] Daw 77% o’r disgyblion o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn brif iaith.[3]

Daw disgyblion yr ysgol o ddalgylch eang sy'n ymestyn cyn belled a Llanfairfechan ac Eglwysbach yn y gorllewin ac Abergele a Llansannan yn y dwyrain.

Hanes

Daeth sefydlu Ysgol y Creuddyn wedi blynyddoedd o frwydro caled gan rieni, Cymdeithas yr Iaith ac eglwysi Cymraeg y dalgylch a Chymdeithas y Cymrodorion. Yn 1963 trefnwodd cell Bangor o'r Gymdeithas ddeiseb ac ymgyrch i gael dwy ysgol Gymraeg: y naill ym Mangor a'r llall yn ardal Llandudno. Gwrthwynebodd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon y cynllun ar y sail nad oedd digon o ddisgyblion i gyfiawnhau ysgol ddwyieithog newydd yng nghyffiniau Llandudno. Parhaodd yr un agwedd yn nyddiau cynnar y Sir Gwynedd newydd wedi'r ad-drefnu ym 1974, ond parhaodd y rhieni i bwyso'n ddi-baid ar y Pwyllgor Addysg. Daeth datblygiad yn ffurf llythyr Cyfarwyddwr Addysg Clwyd at Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd, yn gofyn am ystyriaeth i godi ysgol ddwyieithog newydd ar y cyd, ar neu yn ymyl ffin y ddwy sir. Cytunodd Pwyllgor Addysg Gwynedd i'r gwahoddiad, a bu cydweithio rhyngddynt. Penderfynwyd fod Gwynedd i weinyddu'r ysgol a bod cost ei chynnal i'w dalu yn ôl nifer y plant o'r ddwy sir. Nid siroedd Caernarfon a Gwynedd yn unig a wrthwynebodd y gofynion am ysgol ddwyieithog newydd. Roedd rhai unigolion lleol hefyd yn dymuno gohirio neu ddiddymu agor yr ysgol ar y sail nad oedd digon o ddisgyblion a theuluoedd Cymraeg yn y cyffiniau, a gwell byddai ychwanegu at ysgolion uwchradd lleol megis Ysgol John Bright yn Llandudno ac Ysgol Aberconwy yng Nghonwy.

Agorodd yr ysgol ddydd Mercher 2 Medi 1981 i 218 o ddisgyblion tra fo'r adeiladu'n parhau. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol Hydref 17, 1984 gan y cynghorydd O. M. Roberts; un o'r amlycaf o'r ymgyrchwyr a sicrhaodd fodolaeth yr ysgol a hefyd Cadeirydd cyntaf y Corff Llywodraethol.

Daw dyluniad a siap logo'r ysgol o amlinelliad to neuadd ddrama'r ysgol.

Dathliadau Chwarter Canrif Ysgol Y Creuddyn 2006

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1.  Ysgol y Creuddyn. Llywodraeth Cymru (2016).
  2. [1][dolen farw] Fy Ysgol Leol
  3. [2][dolen farw] Adroddiad Estyn Ysgol Y Creuddyn 2016
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia