Ysgol Gynradd Rhydypennau
Ysgol gynradd Gymraeg yn Rhydypennau, Bow Street, Ceredigion ydy Ysgol Gynradd Rhydypennau. Sefydlwyd yr ysgol ym 1876, mae'r adeilad gwreiddiol yn sefyll ar lôn fach rhwng yr A487 a'r B4353 i Landre. Ym 1966 roed 50 o ddisgyblion a 2 athro yn yr ysgol.[1] Yn 1967 agorwyd Ysgol Feithrin wirfoddol yn y pentre i blant rhwng 3 a 4 oed. Wrth i niferoedd y plant cynradd gynyddu’n gyflym symudodd yr Ysgol Feithrin symud i Neuadd Rhydypennau, ac yn ddiweddarach i Ysgoldy’r Eglwys yn Llandre.[1] Agorwyd adeilad newydd ar briffordd yr A487 ym 1973 wedi i'r nifer o ddisgyblion godi dros 200.[2] Symuddod y plant meithrin a'r dosbarth derbyn i'r hen adeilad, ac yno buont hyd mis Hydref 2007. Agorwyd estyniad newydd ar gyfer y plant rhain yn swyddogol ar 10 Tachwedd 2009.[3] Roedd 192 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol erbyn 2005. Daeth 18% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg.[4] Mae yna nawr dros 200 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, ac yn parhau i addysg uwch yn ysgolion uchaf fel Ysgol Penglais neu Ysgol Penweddig, Mae'r ysgol yma yn cael ei considro'n well na'r Ysgol Cymraeg yn Aberystwyth. Arwyddair yr ysgol yw Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia