Yr wyddor Hebraeg
Mae 22 llythyren yr wyddor Hebraeg (אָלֶף-בֵּית עִבְרִי alephbet ’ivri) yn cael eu defnyddio i ysgrifennu yr iaith Hebraeg. Mae ffurf wahanol ar bump o'r llythrennau hyn pan ddônt ar ddiwedd gair, o'r enw ffurf derfynol. Mae ffurfiau'r llythrennau wedi eu haddasu ychydig i ysgrifennu sawl iaith yr Iddewon alltud, ac Iddew-Almaeneg, Ladino a'r ieithoedd Iddew-Arabeg ymhlith y rhai enwocaf. Caiff Hebraeg ei hysgrifennu o'r dde i'r chwith. Abjad yw'r wyddor Hebraeg, sef llythrennau am ddim ond y gytseiniaid sydd. Er hynny dyfeisiwyd modd i ddangos y llafariaid nes ymlaen yn hanes yr iaith trwy ddefnyddio pwyntiau bach o'r enw niqqud. Yn Hebraeg Rabineg, gall y pedair cytsain אהוי gael eu defnyddio i gynrychioli llafariaid hefyd. Mae nifer y llythrennau yn yr wyddor Hebraeg, eu trefn, eu henwau a'u seiniau bron yn union yr un peth â rhai'r wyddor Aramaeg, oherwydd i'r Hebreaid a'r Arameaid addasu'r wyddor Phoeniceg at eu dibenion eu hunain ar ddiwedd yr ail fileniwm CC. Yn ôl ysgolheigion heddiw, datblygodd yr ysgrifen fodern a oedd yn cael ei defnyddio i ysgrifennu Hebraeg yn ystod y 3 CC o'r ysgrifen Aramaeg. Roedd hon yn cael ei defnyddio gan Iddewon er mwyn ysgrifennu Hebraeg ers y 6ed ganrif CC, a dim ond am enw Duw roedden nhw'n defnyddio'r hen ysgrifen. Cyn hynny, roedd pobl yn ysgrifennu Hebraeg yn yr wyddor Hen Hebraeg a oedd yn datblygu o'r ysgrifen Phoeniceg yn ystod y 10fed ganrif CC. Hyd yn oed heddiw mae'r Samariaid yn dal i ddefnyddio amrywiad ar yr ysgrifen hon mewn gweithiau crefyddol. HanesYn ôl ysgolheigion heddiw, datblygodd yr ysgrifen gydag eraill yn ei hardal yn ystod y mil a hanner o flynyddoedd CC. Mae'n perthyn yn agos i'r wyddor Phoeniceg a achosodd i siaradwyr Groeg ddechrau defnyddio gwyddor yn ôl pob tebyg. Honnir weithiau i amrywiad gwahanol ar yr ysgrifen Hebraeg hon ymddangos tua'r 10g a'i bod hi'n cael ei defnyddio'n eang yn nheyrnasau hynafol Israel a Jwda, nes iddynt gwympo yn yr 8fed a'r 6fed ganrifoedd CC yn eu tro. Ond nid hawdd yw gwahaniaethu rhwng ysgrifen trigolion Israel a Jwda ac eraill a ddefnyddid yn yr ardal gyfagos, yn enwedig gan y Moabiaid a'r Ammoniaid. Ar ôl y Caethglud i Fabilon yn y 6g CC, dechreuodd yr Iddewon beidio â defnyddio'r ysgrifen Hebraeg wreiddol, a dewis ysgrifen berthynol, sef ysgrifen Aramaeg, yn ei lle. Mae'r wyddor Samariaidd, a ddefnyddir gan y Samariaid i ysgrifennu Hebraeg, yn tarddu yn uniongyrchol o'r ysgrifen Hebraeg wreiddiol. Yr ysgrifen Aramaeg yr oedd yr Iddewon yn ei defnyddio a ddatblygodd i mewn i'r ysgrifen Iddewig siâp sgwâr y gelwir "Yr wyddor Hebraeg" arni heddiw. Roedd ysgrifeniadau cysylltiedig yn cael eu defnyddio dros y Dwyrain Canol am sawl canrif, ond ar ôl dyfodiad Cristnogaeth ac wedyn Islam, cymeroedd y gwyddorau Lladin ac Arabeg eu lle. Addaswyd yr wyddor Hebraeg yn nes ymlaen i ysgriennu ieithoedd yr Iddewon Alltud (Caraieg, yr iaith Iddew-Arabeg, Ladino, Iddew-Almaeneg ac yn y blaen). Penderfynwyd gadw'r wyddor Hebraeg er mwyn ysgrifennu Hebraeg yn ei dadeni yn y 18fed a'r 19eg ganrifoedd OC. Y llythrennauDyma lythrennau'r wyddor Hebraeg. Mae pump ohonynt yn newid eu ffurfiau ar ddiwedd geiriau, a geir yn y tabl isod o dan eu ffurfiau arferol.
DS: Mae'r tabl hwn yn mynd o'r dde i'r chwith. Defnyddir yma yr enwau Cymraeg traddodiadol a geir yn y Beibl Cymraeg ar y llythrennau Hebraeg. Awgrymir rhai enwau eraill yng Ngeiriadur yr Academi, er enghraifft sin am schin (ש), a taf/taw am tau (ת), sy'n ceisio dangos ynganiad y llythrennau yn Hebraeg modern, ond yn anffodus nid yw'r rhestr yn gyflawn. Enwi, ysgrifennu, rhifo a thrawsgrifio'r lythrennauDyma dabl sy'n cynnwys pob llythyren yr wyddor Hebraeg, wrth ddangos y llythyren, ei henw, ei gwerth rhifiadol a sut y'i trawsgrifir. Ceir ffurf derfynol gan bump llythyren, a ysgrifennir ar ddiwedd geiriau, ar ochr dde colofn y llythyren.
YnganuMae'r disgrifiadau isod wedi'u seilio ar ynganiad Hebraeg safonol modern Israel.
Nodiadau:
AravritYn 2018 dyfeisiodd y dylunydd graffeg Iddewig o Haifa, Liron Lavi Turkenich, 'wyddor' hybrid o'r enw Aravrit sy'n cyfuno gwaelod llythrennau'r wyddor Hebraeg gyda top llythennau'r wyddor Arabeg fel bod modd i berson sy'n darllen yr iaith wyddor neu'r llall ddarllen y gair.[1] Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia