Yr Eglwys Forafaidd
Enwad Protestannaidd yw'r Eglwys Forafaidd, yn ffurfiol Unitas Fratrum (Lladin am "Undod y Brawdolion"),[1][2][3] neu yn Almaeneg [Herrnhuter] Brüdergemeine[4] ("Undod Brawdolion [Herrnhut]"). Dyma un o'r eglwysi Protestannaidd hynaf yn y byd, sydd yn olrhain ei hanes i'r Diwygiad Bohemaidd yn y 15g drwy hawlio llinach o Undod y Brawdolion (Tsieceg: Jednota bratrská) a sefydlwyd yn Nheyrnas Bohemia ym 1457. Rhoddwyd yr enw "Morafaidd" ar yr eglwys yn sgil ei hadfywiad yn y 18g, wedi i aelodau Undod y Brawdolion ffoi i Sacsoni, yn enwedig Herrnhut, ym 1722 i ddianc erledigaeth grefyddol ym Morafia. Mae gan yr Eglwys Forafaidd ryw un miliwn o aelodau ar draws y byd yn yr 21g.[5] Mae traddodiadau'r Morafiaid yn tynnu'n gryf ar adfywiad y 18g ac yn pwysleisio eciwmeniaeth, duwioldeb personol, cenhadaeth, a cherddoriaeth. Arwyddlun yr Eglwys Forafaidd yw Oen Duw (Agnus Dei) gyda baner buddugoliaeth a'r arysgrif Lladin "Vicit agnus noster, eum sequamur". Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia