Yr Aran
Mae'r Aran yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd yr Wyddfa yn Eryri. Saif ar y grib i'r de o gopa'r Wyddfa ei hun. Mae'r grib yma yn arwain tua'r de dros Fwlch Main, ar hyd Allt Maenderyn a thros Fwlch Cwm Llan i gopa yr Aran, gyda Cwm Llan ei hun rhwng y grib yma a'r Lliwedd. Er nad oes llwybr cyhoeddus wedi ei nodi ar y map, gellir ei ddringo yn weddol hawdd o Lwybr Rhyd Ddu neu Lwybr Watkin i gopa'r Wyddfa. Gyda gofal, gellir dringo crib Allt Maenderyn oddi yma i gyrraedd copa'r Wyddfa. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 747.3 metr (2452 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 3 Gorffennaf 2009. Gweler hefyd
Dolennau allanol
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia