Yr Adolygydd
Roedd Yr Adolygydd yn gylchgrawn byrhoedlog a gyhoeddwyd rhwng 1850-1853. Galwai ei hyn yn gylchgrawn "trimisol", gan hyrwyddo ei hun fel cyhoeddiad oedd yn trafod; "Gwyddoniaeth, Gwladyddiaeth, Llenyddiaeth, a Chrefydd". Cyhoeddwyd y cylchgrawn yng Nghaerdydd gan W. Owen ac yna yn Llanelli gan Rees a Williams. Golygydd y cylchgrawn oedd yr awdur a'r ymgyrchydd blaengar a gwladgarol, Ieuan Gwynedd bu hefyd yn olygydd Y Gymraes.[1] Roedd William Williams (Caledfryn) yn cynorthwyo golygu'r cylchgrawn yn 1850.[2] Person blaenllaw arall bu'n weithgar gyda sefydlu'r cylchgrawn oedd John Davies a aeth ymlaen wedyn i olygu Y Beirniad.[3] Yn dilyn marwolaeth Ieuan Gwynedd penodwyd Edward Roberts (1816-1887), Gweinidog gyda'r Annibynwyr, ymgyrchydd dros addysg i blant a dyn arall a hannai o'r Brithdir, yn olygydd y cylchgrawn.[4] CynnwysRoedd ystod cynnwys y cylchgrawn yn cynnwys, fel enghraifft o'r rhifyn gyntaf: Diwygiad Protestanaidd Switzerland, Holl-dduwiaeth yr Almaen, India, Eisteddfod Aberffraw, Helyntion yr Amseroedd, Syr Robert Peel, Pryddest yn lle Awdl - Awdl Ieuan Ionawr, Y Cyffro Pabyddol.[5] RhagorTeitlau cysylltiol: Y Beirniad (1859-1879) Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[6] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia