Ynys (band)
![]() Band pop o Aberystwyth yw Ynys. Prif leisydd a symbylydd y grŵp yw Dylan Hughes bu gynt yn aelod o'r grwpiau Radio Luxembourg a newidiodd eu henw wedyn i Race Horses ac yna, Endaf Gremlin. Mae eu caneuon yn gwneud defnydd o'r syntheseinydd a disgrifir eu caneuon fel "haenog a melodig" [1] Mewn cyfweliad i bapur bro Aberystwyth, Yr Angor, disgrifia Dylan Hughes y gerddoriaeth fel, "pop amgen o'r un brethyn ag ELO, Elliot Smith, Teenage Fanclub, a Gorky's Zygotic Mynci." Disgrifiwyd y sain gan eraill fel "Cyfoethog ac yn sinematig ei naws ond eto i gyd yn fachog ac yn hawdd gwrando arno. Gan ddefnyddio synths diddorol o’r 80au a haenau o gitarau ‘jangli’ a lleisiau hyfryd sydd yn harmoneiddio yn gelfydd," Bu’r band yn perfformio set byw ar sioe boblogaidd a dylanwadol, Mark Riley ar BBC Radio 6 Music. Bu un o’r senglau oddi ar yr albwm Ynys, sef ‘Môr Du’, yn 'Trac yr Wythnos' ar BBC Radio Cymru ym mis Hydref 2022.[2] HanesFfurfiwyd y band yn 2019 pan bu i Hughes a ddau ffrind a chyn-aelodau Race Horses, Gwion Llewelyn a Mali Llywelyn, recodio caneuon yn stiwdio Iwan Morgan yn Lerpwl sydd wedi recordo grwpiau eraill i Label Libertino.[3] Mewn cyfweliad i bapur bro Aberystwyth, Yr Angor, esboniodd Dylan sut iddo gael awydd recordio caneuon newydd a meddwl 'beth yw'r gwaethaf gall ddigwydd?". Penderfynodd Dylan Hughes beidio recordio o dan ei enw ei hun ac mae'n "falch iawn i mi ddewis Ynys o edrych yn ôl ar rai o'r syniadau eraill!". AelodauMae sawl gwahanol cerddor wedi cydweithio a recordio gyda'r grŵp:
DisgograffiYmysg caneuon mwyaf adnabyddus y grŵp mae Caneuon Mae'n Hawdd, Aros am Byth, a Môr Du. Ym mis Medi rhyddhawyd fideo Newid gan Lŵp.[4] Senglau
AlbwmFideos
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia