Y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl
Cytundeb rhyngwladol i amddiffyn planhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl rhag bygythiadau masnach ryngwladol yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl (Saesneg: Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora; byrfodd: CITES). Fe'i lluniwyd o ganlyniad i benderfyniad a fabwysiadwyd ym 1963 mewn cyfarfod o aelodau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Agorwyd y cytundeb i’w lofnodi ym 1973 a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 1975. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd 184 o wledydd wedi arwyddo'r cytundeb.[1] Nod y cytundeb yw rheoli'r fasnach ryngwladol mewn rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl o fynd i'w colli. Cyflawnir hyn drwy system o drwyddedau a thystysgrifau. Mae CITES yn rhoi lefelau amrywiol o amddiffyniad i fwy na 40,900 o rywogaethau.[2] Mae rhestr CITES yn cynnwys ystod eang o eitemau – nid yn unig y planhigyn neu'r anifail cyfan (boed yn fyw neu'n farw), ond hefyd cynhyrchion sy'n deillio ohonynt. Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia