Y Byd ar Bedwar
Rhaglen deledu sy'n trafod materion cyfoes yw'r Y Byd ar Bedwar. Mae'r rhaglen wedi ei ddarlledu ar S4C ers i'r sianel gael ei lansio yn 1982. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni ITV Cymru Wales. Mae gohebwyr y rhaglen wedi adrodd ar storiau o bedwar ban y byd. Yn yr 1980au, llwyddodd y gohebydd Tweli Griffiths sicrhau y cyfweliad cyntaf gyda unben Libya Gaddafi.[1] Cafwydd adroddiadau hefyd am gwymp Wal Berlin, Trychineb Chernobyl a Rhyfel y Gwlff. Mae'r rhaglen yn nodedig am gael cyfweliadau unigryw gyda rhai unigolion yn y newyddion yng Nghymru, er enghraifft gyda Sion Aubrey Roberts,[2] yr unig berson a garcharwyd erioed dros weithredoedd Meibion Glyndwr, a Ryan James,[3] milfeddyg o Rhydaman a garcharwyd ar gam wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ei wraig. Tîm
Cyn-aelodau'r tîm
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia