Wyrd Sisters
Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Wyrd Sisters, a'r chweched nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1988. Mae'r llyfr yn ail-gyflwyno cymeriad Granny Weatherwax o nofel gynt yn y gyfres, Equal Rites. Crynodeb PlotMae'r plot yn barodi o Macbeth, mae Wyrd Sisters yn canolbwyntio ar dair gwrach: Granny Weatherwax; Nanny Ogg, matriarch llwyth mawr Ogg, sy'n berchen ar y gath fwyaf ddrygionus yn y byd, (Greebo); a Magrat Garlick, yr wrach iau, sy'n credu'n gadarn mewn gemwaith yr ocwlt, er nad ydyw'n gweithio. Caiff y Brenin Verence I o Lancre ei lofruddio gan ei gefnder, Duke Felmet, a rhoddir coron a baban y brenin i'r tair gwrach gan forwyn tra'n dianc. Mae'r gwrachod yn rhoi'r plentyn a'r goron i grŵp o actorion sy'n teithio, gan gydnabod y byddai tynged yn dilyn ei gwrs yn y pen draw ac y buasai Tomjon yn tyfu fyny i drechu Duke Felmet. Ond mae'r deyrnas yn flin ac nid yw eisiau aros 15 mlynedd, felly mae'r gwrachod yn ei symud ymlaen mewn amser. Yn y cyfamser, mae Duke Felmet wedi penderfynu cael drama wedi ei hysgrifennu a'i pherfformio sy'n ffafriol iddo ac mae'n anfon y cellweiriwr i Ankh-Morpork i recriwtio'r grŵp actio y mae Tomjon ynddi, sydd ddim yn teithio bellach. Yr unig broblem ydy nad oes gan Tomjon yr awydd i fod yn frenin. Yn lwcus, mae'r cellweiriwr yn troi allan i fod yn frawd iddo felly daw ef yn frenin yn ei le. Mae nifer o gyfeiriadau at Macbeth wedi eu plethu yn y stori, megis y Dug yn ceisio golchi'r gwaed o'i ddwylo trwy'r adeg gan ddefnyddio amryw o offerynnau megis gratur caws. Mae hefyd nifer o barodïau o Shakespeare megis The Dysk theater a Please Yourself. Mae'r nofel wedi cael ei haddasu yn fersiwn wedi ei hanimeiddio a dramodiad pedwar rhan ar gyfer BBC Radio 4, yn ogystal ag addasiad drama gan Stephen Briggs. Cyfieithiadau
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia