Winston Duke
Mae Winston Duke (ganed 15 Tachwedd 1986) yn actor Tobagonaidd sy'n byw yn yr Unol Daleithiau. Serenna Duke fel M'Baku yn ffilm y Bydysawd Sinematig Marvel Black Panther.[1] CefndirGanwyd Duke yn Nhobago, Trinidad a Tobago a symudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i fam, Cora Pantin, a'i chwaer pan oedd yn naw oed[2]. Graddiodd o Ysgol Uwchradd Brighton yn Rochester, Talaith Efrog Newydd yn 2004 GyrfaDechreuodd actio mewn cynyrchiadau theatr ar gyfer Cwmni Portland Theater a theatr un cwmni Yale cyn cael ei gastio yn Person of Interest.[3] Yn Yale daeth yn gyfeillgar gyda'i gyd actor Lupita Nyong'o, y byddai'n gyd serennu a fo yn Black Panther.[4] Dychwelodd Winston cartref i Drinidad & Tobago yn 2012 ar gyfer cynhyrchiad theatr An Echo in the Bone yng nghyd actio efo'r Taromi Lourdes Joseph. Mae Duke yn serennu yn ffilmiau cwmni Marvel Cinematic Universe Black Panther ac Avengers: Infinity War fel M'Baku.[5] FfilmograffiFfilm
Teledu
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia