William Williams (Creuddynfab)
Beirniad llenyddol a golygydd Cymraeg oedd William Williams (20 Awst 1814 – 26 Awst 1869), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Creuddynfab. Roedd yn frodor o ardal Y Creuddyn ger Llandudno yn yr hen Sir Gaernarfon (yn Sir Conwy heddiw).[1] BywgraffiadGaned Creuddynfab yn 1814. Saer maen oedd ei dad. Ni chafodd ond ychydig o addysg a dechreuodd ei yrfa fel gwas fferm yn y Creuddyn.[1] Yn y cyfnod 1845-1862 bu'n gweithio fel meistr stesion ar y rheilffordd newydd yn ardal y Pennines yng ngogledd Lloegr. Yno daeth yn gyfaill i'r bardd Ceiriog. Cafodd waith i Geiriog ar y rheilffordd a daeth yn ddylanwad mawr ar y bardd ieuanc, megis perthynas athro a disgybl.[2] Pan ddychwelodd i Gymru daeth yn Ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r swydd oherwydd afiechyd.[1] Yn 1864 daeth yn olygydd cylchgrawn Yr Eisteddfod. Roedd cryn fri i Greuddynfab fel beirniad llenyddol yn ei gyfnod. Roedd o blaid y mesurau rhydd newydd yn enwedig y delyneg gan ymosod ar y beirdd Neo-Glasuraidd fel Caledfryn. Gosododd ei feirniadaeth yn ei unig gyhoeddiad, Y Barddoniadur Cymmreig; yn ôl Saunders Lewis, hwn oedd "un o'r ychydig bethau pwysig mewn beirniadaeth Gymraeg rhwng Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan."[1] Bu farw yn 1869. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia