William Rowlands
Llyfryddwr a gweinidog oedd William Rowlands (1802–1865), sy'n fwy adnabyddus dan ei lysenw Gwilym Lleyn. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Llyfryddiaeth y Cymry (1869). BywgraffiadGaned William Rowlands ym Mryncroes yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Aeth yn weinidog gyda'r Wesleiaid a bu'n gwasanethu mewn amryw lefydd o 1831 hyd 1864 pan ymddeolodd. Treuliodd ddau gyfnod fel golygydd Yr Eurgrawn Wesleaidd (1842-45, 1852-56). Roedd Rowlands yn gasglwr llyfrau brwd a threuliodd flynyddoedd yn catalogio hen lyfrau Cymraeg (a rhai Saesneg hynafiaethol yn ymwneud â Chymru). Ffrwyth ei lafur oedd y gyfrol swmpus Llyfryddiaeth y Cymry, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, wedi'i golygu gan D. Silvan Evans, yn 1869. Er ei fod yn frith â chamgymeriadau a bylchau mae'n aros yn ffynhonnell werthfawr ar hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg rhwng 1546 a 1800. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia