William Robert Grove
Dyfeisydd a ffisegydd o Gymru oedd William Robert Grove (11 Gorffennaf 1811 – 1 Awst 1896). Yn enedigol o Abertawe, ef oedd dyfeisiwr y gell danwydd a gwnaeth lawer o waith ar gadwraeth egni. Roedd hefyd yn gyfreithiwr ac yn farnwr Uchel Lys. Astudiodd y clasuron yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen 1829–32, cyn iddo ddod yn gyfreithiwr. Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn, Llundain, yn 1835. Yn y flwyddyn honno daeth yn aelod o Sefydliad Brenhinol (Royal Institution) yn Llundain, sefydliad ar gyfer addysg wyddonol ac ymchwil, a hefyd daeth yn aelod sefydlu'r Swansea Philosophical and Literary Society (Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe). Ym 1839 dyfeisiodd ffurf newydd o gell drydan, y Gell Grove, a ddefnyddiodd electrodau sinc a phlatinwm a oedd yn agored i ddau asid ac a wahanwyd gan lestr ceramig hydraidd. Ym 1840 dyfeisiodd un o'r lampiau trydan cyntaf a ddefnyddiodd fỳlb gwynias. Yn 1842 lluniodd berthynas rhwng egni mecanyddol, gwres, golau, trydan a magneteg trwy eu trin fel amlygiadau o un "grym" (egni yn nhermau modern). Yn 1846 cyhoeddodd ei ddamcaniaethau yn ei lyfr On the Correlation of Physical Forces. Mae'r cysyniad hwn yn sail i egwyddor cadwraeth egni. Yn 1842 creodd y gell danwydd gyntaf, sef batri a gynhyrchodd drydan trwy gyfuno hydrogen ac ocsigen. Yn y 1840au chwaraeodd ran bwysig wrth foderneiddio a diwygio'r Gymdeithas Frenhinol. Yn ddiweddarach yn y 1840au gwnaeth lai o ymchwil wyddonol a chanolbwyntiodd ar ei yrfa fel bargyfreithiwr. Fe'i penodwyd yn farnwr ym 1871. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia