William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech
Roedd William Richard Ormsby-Gore, 2il Barwn Harlech (3 Mawrth 1819 – 26 Mehefin 1904), yn filwr ac Aelod Seneddol Prydeinig. CefndirRoedd William yn fab i William Ormsby-Gore a Mary Jane Ormsby. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Eton. Yn ugain oed ymunodd â 53 Catrawd y Troedfilwyr ym 1839 fe'i codwyd yn is-gapten ym 1841. Trosglwyddodd i gatrawd y Light Dragoons fel capten ym 1846 a chafodd ei ddyrchafu'n uwchgapten ym 1852. Gyrfa wleidyddolYn etholiad cyffredinol 1841, etholwyd Ormsby-Gore yn ddiwrthwynebiad fel yr AS Geidwadol dros Swydd Sligo. Yn etholiad cyffredinol 1852 cafwyd cystadleuaeth ar gyfer y sedd a chafodd ei orchfygu gan ymgeisydd Rhyddfrydol a oedd yn tueddu at genedlaetholdeb. Dychwelodd i'r Senedd mewn isetholiad ar 17 Mai 1858 fel yr AS dros Swydd Leitrim, sedd a gadwodd hyd 1876.[1] Prynodd Ormsby-Gore ystâd yn Derrycarne ger Dromod yn Swydd Leitrim. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Leitrim am dymor 1857. Fe'i penodwyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Leitrim ym 1878,[2] gan gadw'r swydd hyd ei farwolaeth. Arglwydd HarlechAr 14 Ionawr 1876, codwyd John ei frawd i'r bendefigaeth fel y Barwn 1af Harlech. Gan nad oedd gan John etifedd gwrywaidd rhoddwyd y Barwniaeth iddo gyda hawl gweddilliad statudol yn enwi ei William yn etifedd tybiedig. Fel mae'n digwydd bu farw'r Barwn gyntaf o fewn 6 mis i'w ddyrchafiad,[3] ac ar 15 Mehefin 1876 daeth William Ormsby-Gore yn ail Farwn Harlech. Penodwyd Harlech yn Ddirprwy Raglaw Swydd Amwythig ar 22 Chwefror 1882. Priodas a phlantPriododd yr Arglwydd Harlech y Fonesig Emily Charlotte Seymour, merch yr Admiral Syr George Francis Seymour a chwaer Francis Hugh George Seymour, 5ed Ardalydd Hertford ym 1850. Bu iddynt chwech o blant.[1] MarwBu farw'r Arglwydd Harlech yn ei gartref yn Llundain ar 26 Mehefin 1904 yn 85 mlwydd oed.[4] Rhoddwyd ei gorff i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sylatyn [5]. Fe'i holynwyd i'r farwniaeth gan George, ei fab hynaf. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia